Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Byw'n annibynnol os ydych chi'n fyddar neu'n drwm eich clyw

Mae'r cyfarpar sydd ar gael i bobl fyddar neu bobl sy'n drwm eu clyw i'w ddefnyddio yn eu cartrefi'n cynnwys ffonau testun, dyfeisiau gwrando a dyfeisiau tynnu sylw megis clociau larwm a chlychau drws sydd wedi'u haddasu'n arbennig.

Cyfarpar a chymhorthion ar gyfer y cartref a’r gwaith

Mae cymorth ar gael gyda sefyllfaoedd bob dydd sy'n cynnwys teleffonau, ffonau testun a chyfarpar gwrando. Mae'r cymhorthion ychwanegol yn cynnwys dolenni sain sy'n gweithio gyda'ch teclyn clywed, larymau, clociau larwm, clychau drws ac addasyddion teletestun.

Gellir cael cyfarpar a chyngor am y gwahanol fathau o gymhorthion sydd ar gael oddi wrth y gwasanaethau cymdeithasol, adrannau clyw'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a mudiadau gwirfoddol.

Cymhorthion ar gyfer y ffôn

Dyma declynnau i'ch helpu chi ddefnyddio'r ffôn:

  • setiau llaw gyda chyplyddion anwytho
  • sainchwyddwyr
  • clychau estynedig
  • arddangos testun

RNID Typetalk yw'r gwasanaeth ffôn cenedlaethol a redir gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar ac a ariennir gan BT. Mae'n eich galluogi chi i gyfathrebu gyda phobl sy'n clywed dros y rhwydwaith ffôn, gan ddefnyddio un o weithredwyr Typetalk RNID.

Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth 24 awr y dydd. Mae'r gwasanaeth am ddim - dim ond talu am y galwadau y byddwch yn ei wneud.

Rhif ffôn: 0800 731 1888

Ffôn testun: 0800 500 888

Clociau larwm a watshis

Gall clociau larwm ar gyfer pobl fyddar neu bobl drwm eu clyw weithio mewn gwahanol ffyrdd. Dyma brif nodweddion y clociau:

  • maent yn dirgrynu o dan y gobennydd i dynnu sylw'r defnyddiwr
  • mae ganddynt olau sy'n fflachio
  • mae sain y larwm yn uwch na'r sain arferol

Gallwch hefyd brynu watshis sy'n dirgrynu.

Clychau drws a chyfarpar sy'n tynnu'ch sylw at seiniau yn eich cartref

Yn ogystal â chlychau drws gyda golau sy'n fflachio neu gloch y mae ei sain yn uchel iawn, mae systemau eraill sy'n defnyddio sawl ffordd o dynnu'ch sylw y gallwch eu defnyddio ar gyfer seiniau yn y cartref, er enghraifft, pan fydd y ffôn yn canu.

Larymau mwg a diogelwch tân

Gallwch gael larymau mwg sy'n defnyddio goleuadau strôb a phadiau sy'n dirgrynu i'ch rhybuddio am yr arwydd cyntaf o dân.

Mae larymau mwg â phadiau sy'n dirgrynu wedi'u gosod â phad arbennig sy'n dirgrynu wedi'i gysylltu â'r larwm mwg, a gellir ei roi dan eich gobennydd neu fatres. Bydd y pad yn dirgrynu pan gaiff y larwm ei weithredu.

Bydd goleuadau strôb sydd wedi'u cysylltu â larwm mwg yn allyrru golau strôb sy'n fflachio i'ch rhybuddio pan fydd y larwm mwg yn seinio.

Bydd larymau cysylltiedig wedi'u cysylltu â'r holl larymau mwg eraill yn yr adeilad, gan sicrhau y bydd pob larwm cysylltiedig yn seinio pan gaiff un larwm mwg ei ysgogi. Golyga hyn, hyd yn oed os yw'r tân gryn bellter o lle'r ydych chi, y byddwch yn gwybod amdano ac y gallwch adael yr adeilad cyn iddo ddod yn agosach atoch.

Argymhellir eich bod yn cysylltu â thrydanwr cymwysedig i osod larymau cysylltiedig.

I gael gwybod mwy am y larymau mwg hyn, cyngor am gynllunio eich dihangfa a lle i fynd i gael cymorth a chyngor, llwythwch y llyfryn 'Diogelwch tân i bobl â phroblemau golwg, clyw neu symudedd' oddi ar y we.

Teledu ac adloniant yn y cartref

Mae is-deitlau teledu a chyfieithiadau o raglenni teledu mewn iaith arwyddion yn golygu bod teledu'n fwy hygyrch i bobl fyddar a thrwm eu clyw.

Asesiadau iechyd a gofal cymdeithasol

Os byddwch yn cael asesiad gan eich gwasanaethau cymdeithasol lleol, gall arbenigwr edrych ar eich anghenion unigol er mwyn gallu darparu'r cymorth iawn, gan gynnwys cyfarpar.

Cymorth cyfathrebu

Mae cymorth cyfathrebu yn cynnwys dehonglwyr, darllenwyr gwefusau ac ysgrifenwyr nodiadau Iaith Arwyddion Prydain. Dewch i gael gwybod sut y gellir trefnu hyn ac i gael enghreifftiau o gefnogaeth cyfathrebu mewn amgylchiadau penodol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU