Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Tai gwarchod

Gall tai gwarchod gynnig nifer o wasanaethau i'ch helpu chi i fyw yn annibynnol gyda'r sicrwydd ychwanegol y gallwch alw ar rywun mewn argyfwng.

Mae tai gwarchod yn wahanol i fathau eraill o dai oherwydd bod rheolwr y cynllun, neu warden, yn byw yn yr adeilad neu gerllaw. Gellir cysylltu â hwy drwy system larwm os oes rhaid. Mae rhai cynlluniau wedi'u bwriadu'n benodol ar gyfer pobl anabl ac weithiau bydd cyfleusterau arbenigol ar gael a staff wedi'u hyfforddi'n arbennig i ddarparu cefnogaeth.

Fel arfer, cynghorau lleol fydd yn rhedeg cynlluniau tai gwarchod. Mae gan wahanol swyddfeydd tai cyngor a chymdeithasau tai eu meini prawf cymhwysedd eu hunain. Dylai hyn gynnwys asesiad cyffredinol o'ch anghenion.

Mae yna restr aros weithiau am dai gwarchod.

Tai gyda gofal ychwanegol

Mae tai gyda gofal ychwanegol yn fath o dai gwarchod a all gynnig gofal a chefnogaeth. Gall fod yn ddelfrydol i bobl sy'n llai abl i ymdopi ar eu pen eu hunain. Mae gofal ychwanegol yn cynnig cyfle i bobl fyw yn eu cartref eu hunain, hyd yn oed os oes ganddynt lawer o anghenion o ran gofal a chefnogaeth.

Gellir cynnig tai gyda gofal ychwanegol i'w rhentu neu i'w gwerthu, felly gall rhai pobl barhau i fod yn berchen eu cartref eu hunain.

Mae'r gwasanaethau a gynigir yn ogystal â gofal a chefnogaeth yn amrywio rhwng cynlluniau, ac mae nifer ohonynt yn cynnwys bwyty, trefnu gweithgareddau cymdeithasol a chyfleoedd dysgu.

Fel arfer, bydd yna restr aros am dai gyda gofal ychwanegol.

Staff tai gwarchod

Mae aelodau staff cymdeithas dai, sydd weithiau'n byw ar y safle, yn darparu cefnogaeth i bobl sy'n byw mewn tai gwarchod. Gall cyfrifoldebau cyffredinol rheolwr cynllun gynnwys:

  • gwneud ymholiadau rheolaidd ynghylch eich lles
  • cydlynu gyda'ch meddyg lleol a'ch perthnasau, os oes angen
  • rheoli'r gwaith o redeg y cynllun o ddydd i ddydd

Fel arfer, nid yw wardeniaid neu reolwyr y cynlluniau'n darparu gwasanaethau gofal i breswylwyr nac yn gwneud tasgau megis siopa neu lanhau. Gallwch barhau i wneud cais i'r adran gwasanaethau cymdeithasol am gefnogaeth (er enghraifft cael prydau parod os ydych yn cael problemau gyda choginio) os ydych yn byw mewn llety gwarchod. Dylai adran gwasanaethau cymdeithasol eich awdurdod lleol allu rhoi manylion i chi am y rhain.

Os ydych yn byw yn eich cartref eich hun ond bod angen cefnogaeth ychwanegol arnoch, er enghraifft, adeg salwch neu argyfwng, gellir defnyddio tai gwarchod weithiau i ddarparu gofal yn y tymor byr.

Costau a thaliadau gwasanaeth

Er mwyn talu cost cynnal cynllun tai gwarchod, efallai y bydd yn rhaid i breswylwyr dalu tâl gwasanaeth misol. Mae hwn yn cyfrannu tuag at dalu am bethau megis rheolwr y cynllun ac atgyweiriadau i'r adeilad.

Bydd y swm y bydd yn rhaid i chi ei dalu yn amrywio, felly dylech bob amser ofyn faint fydd y tâl gwasanaeth. Hefyd, mae'n bwysig gofyn beth nad yw'r tâl gwasanaeth yn talu amdano. Er enghraifft, efallai nad yw'n cynnwys gwresogi.

Os ydych yn berchen-feddiannydd, efallai y gofynnir i chi dalu taliadau 'un-tro' hefyd ar gyfer pethau megis cost atgyweiriadau annisgwyl i'r adeilad.

Dewis y cynllun tai gwarchod gorau i chi

Gallai fod yn ddefnyddiol ystyried y ffactorau canlynol:

  • faint yw’r tâl gwasanaeth a sut mae'n cael ei gyfrifo?
  • pwy sy'n gyfrifol am atgyweiriadau, gwaith cynnal a chadw a gwelliannau?
  • a oes unrhyw gostau yswiriant a rhent tir?
  • a oes unrhyw gymalau arbennig a allai derfynu'r brydles y mae'n bwysig bod yn ymwybodol ohonynt?
  • os yw'n berthnasol, beth sy'n digwydd os byddwch am werthu'r eiddo'n ddiweddarach?
  • sut fath o lety a ddarperir?
  • a ddarperir stôf neu oergell?
  • sut fath o system wresogi sydd yno?
  • a oes mynedfa gyffredin ac a oes unrhyw drefniadau diogelwch?
  • pa gyfleusterau golchi dillad sydd ar gael?
  • a oes gwasanaethau iechyd sy'n ymweld ar gael, er enghraifft, nyrsys cymunedol?
  • beth mae'r warden neu'r rheolwr gofal yn ei wneud ac a oes rhywun ar gael 24 awr y dydd?

Cysylltwch â'r adran gwasanaethau cymdeithasol lleol yn eich awdurdod lleol i gael mwy o wybodaeth am dai gwarchod.

Gweud cais am tai gwarchod a chefnogaeth lleol

Bydd y ddolen isod yn gadael i chi roi manylion lle'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch wneud cais am gynllun tai gwarchod a thai gwarchod gyda chefnogaeth a/neu gael gwybod mwy.

Allweddumynediad llywodraeth y DU