Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Y Ddeddf Gallu Meddyliol

Daeth y Ddeddf Gallu Meddyliol i rym yn llawn ar 1 Hydref 2007. Ei nod yw amddiffyn pobl na allant wneud eu penderfyniadau eu hunain o ganlyniad i anabledd dysgu neu gyflwr iechyd meddwl, er enghraifft clefyd Alzheimer, neu am unrhyw reswm arall. Mae'n darparu canllawiau clir ar gyfer gofalwyr a gweithwyr proffesiynol ynghylch pwy sy'n cymryd penderfyniadau ym mha sefyllfaoedd.

Y gallu i wneud penderfyniadau

Mae'r Ddeddf yn datgan y dylid trin pawb fel pobl sy'n gallu gwneud eu penderfyniadau eu hunain hyd nes y gellir dangos na allant wneud hynny. Mae'n anelu hefyd at alluogi pobl i wneud eu penderfyniadau eu hunain am ba hyd bynnag y gallant wneud hynny.

Caiff gallu person i wneud penderfyniad ei sefydlu pan fydd angen gwneud penderfyniad. Gallai diffyg gallu fod oherwydd anabledd dysgu difrifol, dementia, problemau iechyd meddwl, anaf i'r ymennydd, strôc neu fod yn anymwybodol o ganlyniad anesthetig neu ddamwain sydyn.

Ceir trosedd newydd hefyd, sef cam-drin neu esgeuluso person nad yw’n gallu gwneud penderfyniadau drosto’i hun.

Pan na fydd person yn gallu gwneud penderfyniad mwyach

Bwriad y Ddeddf yw amddiffyn pobl sy'n colli'r gallu i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain. Bydd yn:

  • gadael i'r person benodi rhywun (er enghraifft ffrind neu berthynas y gall ymddiried ynddo), tra'i fod dal yn gallu gwneud hynny, i wneud penderfyniadau ar ei ran unwaith y mae'n colli'r gallu i wneud hynny. Golyga hyn y gall wneud penderfyniadau ynghylch iechyd a lles personol y person. Gynt, roedd y gyfraith yn cwmpasu materion ariannol yn unig.
  • sicrhau bod y penderfyniadau a wneir ar ran y person er budd gorau'r person hwnnw. Mae'r Ddeddf yn darparu rhestr wirio y mae'n rhaid i'r unigolion sy'n gwneud penderfyniadau ei hystyried.
  • cyflwyno Cod Ymarfer ar gyfer pobl megis gweithwyr gofal iechyd sy'n cefnogi pobl sydd wedi colli'r gallu i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain.

Bydd pobl nad oes ganddynt unrhyw un i weithredu ar eu rhan hefyd yn gallu gadael cyfarwyddiadau ynghylch eu gofal dan y darpariaethau newydd.

Gallwch ddarllen mwy am y Ddeddf ar wefan Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Mae Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus (SGC) yn amddiffyn pobl sydd heb y gallu meddyliol i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain.

Bydd yn gwneud hyn drwy reoleiddio a goruchwylio dirprwyon a benodir gan y llys, a thrwy gofrestru Atwrneiaethau Arhosol ac Atwrneiaethau Parhaus.

Mewn rhai achosion, lle ceir amheuaeth nad yw twrnai neu ddirprwy'n gweithredu er pennaf les y person a gynrychiolir ganddo, bydd SGC yn gweithio gyda sefydliadau eraill er mwyn sicrhau y caiff unrhyw honiadau o gamdriniaeth eu hymchwilio'n llawn, ac y gweithredir arnynt.

Bydd SGC hefyd yn darparu gwybodaeth am allu meddyliol i'r cyhoedd, a gall ddarparu cysylltiadau â sefydliadau eraill sy'n gweithio ym maes gallu meddyliol. Gellir cael mwy o wybodaeth am Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus, y Llys Nodded ac Atwrneiaethau Arhosol ar wefan Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Y Llys Nodded

Y Llys Nodded sy'n ymdrin â phob mater sy'n ymwneud â phobl heb y gallu i wneud penderfyniadau penodol, er enghraifft, i ymwneud â materion ariannol neu ofal iechyd difrifol. Bydd yn ystyried achosion lle mae gofalwr y person yn anghytuno â gweithiwr gofal iechyd neu weithiwr cymdeithasol ynghylch beth sydd er lles neu fudd gorau'r person.

Mae gan y Llys Nodded farnwyr sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig i ymdrin â phenderfyniadau sy'n ymwneud â lles personol, yn ogystal â materion sy'n ymwneud ag eiddo ac arian.

Atwrneiaethau Arhosol

Bydd Atwrneiaethau Arhosol yn cymryd lle Atwrneiaethau Parhaus. Bydd Atwrneiaethau Arhosol yn rhoi mwy o ddewis a rheolaeth i bobl agored i niwed dros eu dyfodol, ac yn galluogi pobl i ddewis rhywun y maent yn ymddiried ynddo i ofalu am eu materion os oes angen.

Mae'r Atwrneiaethau Arhosol newydd yn ymdrin â lles personol yn ogystal â phenderfyniadau'n ymwneud ag arian ac eiddo. Gan bod rhaid eu cofrestru gyda'r Gwarcheidwad Cyhoeddus cyn eu defnyddio, cânt eu harchwilio'n fanylach er mwyn sicrhau bod unrhyw benderfyniadau a wneir ar ran pobl na allant eu gwneud drostynt eu hunain yn cael eu gwneud er pennaf les y bobl hynny.

Eiriolaeth Gallu Meddyliol Annibynnol

Mae’r Ddeddf Gallu Meddyliol wedi creu gwasanaeth newydd, sef y gwasanaeth Eiriolaeth Gallu Meddyliol Annibynnol (EGMA). Bydd y gwasanaeth yn helpu pobl agored i niwed sy'n methu â gwneud penderfyniadau pwysig am eu bywydau.

Bydd y gwasanaeth Eiriolaeth Gallu Meddyliol Annibynnol yn golygu y caiff rhai pobl â diffyg gallu - gall hyn gynnwys pobl â dementia, clefyd Alzheimer, anaf i’r ymennydd neu anabledd dysgu difrifol - eu helpu i wneud dewisiadau anodd am bethau megis triniaeth feddygol neu ble i fyw. Fe'i bwriedir ar gyfer pobl nad oes ganddynt berthnasau neu ffrindiau i siarad drostynt.

Tair Stori - ffilm am y Ddeddf Gallu Meddyliol

Mae 'Tair Stori' yn rhaglen ddogfen am dair stori bywyd go iawn. Mae'n dangos sut mae'r Ddeddf Gallu Meddyliol yn grymuso ac yn amddiffyn pobl sydd heb y gallu i wneud rhai penderfyniadau, neu sy'n ei chael yn anodd cyfleu rhai o'u penderfyniadau.

Mae'r ffilm 15 munud ar gael mewn tair fformat:

  • Fideo Windows Media - y ffeil WMV
  • QuickTime - y ffeil MOV
  • Fideo Real Player - y ffeil RMVB

Allweddumynediad llywodraeth y DU