Pan fyddwch yn gwneud hawliad am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, byddwch fel arfer yn cael Asesiad Gallu i Weithio. Efallai y gofynnir i chi hefyd gymryd rhan mewn asesiad meddygol.
Yr Asesiad Gallu i Weithio yw'r prif asesiad ar gyfer hawliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Gallai gynnwys asesiad meddygol os bydd angen rhagor o wybodaeth am eich salwch neu'ch anabledd cyn y gellir gwneud penderfyniad am eich gallu i weithio.
Bydd gweithiwr proffesiynol gofal iechyd cymeradwy, sydd wedi cael hyfforddiant ar sut mae delio gyda hawliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, yn asesu sut mae'ch salwch neu'ch anabledd yn effeithio ar eich gallu i weithio neu wneud gweithgareddau sy'n gysylltiedig â gwaith, ac yn rhoi cyngor i'r Adran Gwaith a Phensiynau, sy'n gyfrifol am weinyddu hawliadau budd-daliadau.
Mae'n bosib y bydd y gweithiwr proffesiynol gofal iechyd cymeradwy yn argymell i chi gael asesiad meddygol os teimla bod angen rhagor o wybodaeth arnynt am eich cyflwr.
Pan fyddwch chi'n gwneud hawliad am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, rhaid i chi lenwi holiadur am sut mae'ch anabledd neu'ch salwch yn effeithio ar eich gallu i gyflawni tasgau beunyddiol.
Mae'n bosib y gofynnir i'ch meddyg eich hun ddarparu adroddiad meddygol.
Bydd gweithiwr proffesiynol gofal iechyd cymeradwy yn ystyried yr holiadur ac unrhyw adroddiadau meddygol, ynghyd ag unrhyw wybodaeth yr ydych chi o bosib wedi'i darparu.
Os teimla'r gweithiwr proffesiynol gofal iechyd cymeradwy y bydd angen mwy o wybodaeth ar yr Adran Gwaith a Phensiynau er mwyn gwneud penderfyniad am eich hawliad am fudd-dal, byddant yn argymell eich bod yn cael asesiad meddygol wyneb-yn-wyneb.
Mae'n bosib bod sawl rheswm dros ofyn i chi ddod am asesiad meddygol. Yn aml iawn, y rheswm yw bod angen mwy o wybodaeth feddygol cyn y gellir cymeradwyo'ch cais.
Gofynnir i'r rhan fwyaf o bobl gael un. Nid yw'n golygu bod y wybodaeth a roesoch chi ar eich ffurflen gais yn cael ei hystyried yn amheus nac y bydd eich cais yn cael ei wrthod.
Ni chaiff eich cais am fudd-dal ei wrthod heb i chi naill ai gael asesiad meddygol neu gael cynnig un.
Fel arfer, bydd yr asesiad meddygol yn cael ei gynnal mewn Canolfan Feddygol gerllaw eich cartref. Os nad ydych yn ddigon iach i deithio neu os ydych yn byw fwy na 90 munud o siwrnai o'r ganolfan agosaf, efallai y bydd y gweithiwr proffesiynol gofal iechyd cymeradwy yn ymweld â'ch cartref.
Fel arfer, bydd eich darparwr Gwasanaethau Iechyd yn eich ffonio. Cewch wybod pryd mae eich apwyntiad a rhoddir dewis i chi ei newid os nad yw'r amser yn gyfleus i chi.
Mae'n bwysig iawn eich bod yn mynd i gael eich asesiad meddygol, a'ch bod yn cymryd rhan lawn ynddo, oherwydd mae'n bosib yr effeithir ar eich budd-dal os na wnewch hynny. Os nad ydych yn gallu mynd i gael yr asesiad am unrhyw reswm, dylech gysylltu â'r Ganolfan Feddygol ymlaen llaw a threfnu apwyntiad arall.
Mae gennych yr hawl i'r canlynol:
Rhaid i chi roi gwybod i'r Ganolfan Feddygol ymlaen llaw os ydych chi'n dymuno cael cyfieithydd neu weithiwr proffesiynol gofal iechyd cymeradwy sydd o'r un rhyw â chi. Byddant yn gwneud eu gorau i ddod o hyd i un i chi, ond ni fydd hyn bob tro'n bosib mewn rhai ardaloedd.