Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth - cyflwyniad

Bydd Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn cymryd lle'r Budd-dal Analluogrwydd i hawlwyr newydd o 27 Hydref 2008 ymlaen. Os ydych chi eisoes yn derbyn Budd-dal Analluogrwydd, byddwch yn dal i'w gael cyn belled â'ch bod yn gymwys.

Ynghylch y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Ceir tystiolaeth sy'n dangos bod bywydau pobl yn well pan maent yn gweithio – nid dim ond yn ariannol, ond o ran eu hiechyd a'u lles, eu hunan-barch a'r rhagolygon i'r dyfodol ar eu cyfer hwy a'u teulu.

Mae'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn cynnig cefnogaeth bersonol a chymorth ariannol i chi, fel y gallwch gymryd rhan mewn gwaith priodol, os gallwch.

Mae'n rhoi mynediad i chi at ymgynghorydd personol sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig, ac at amrywiaeth eang o wasanaethau pellach gan gynnwys cyflogaeth, hyfforddiant a chefnogaeth rheoli cyflwr, i'ch helpu i reoli eich salwch neu anabledd ac ymdopi ag ef mewn cyd-destun gwaith.

Mae'r asesiad meddygol newydd, yr Asesiad o Allu i Weithio, yn rhan ganolog o'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Mae hwn yn asesu beth y gallwch ei wneud, yn hytrach na beth na allwch ei wneud, ac mae'n canfod y gefnogaeth y gallai fod ei hangen arnoch yng nghyswllt iechyd.

Disgwylir i'r rhan fwyaf o bobl sy'n hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth gymryd camau priodol i helpu i baratoi ar gyfer gwaith, gan gynnwys mynychu cyfres o gyfweliadau sy'n canolbwyntio ar waith gyda'u hymgynghorydd personol.

Dan y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, os oes gennych chi salwch neu anabledd sy'n cael effaith ddifrifol ar eich gallu i weithio, cewch fwy o gymorth ariannol ac ni ddisgwylir i chi baratoi i ddychwelyd i'r gwaith. Gallwch wirfoddoli i wneud hynny unrhyw bryd os dymunwch.

Sut mae'n gweithio

Mae dau gyfnod i'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth:

  • telir cyfradd y cyfnod asesu am 13 wythnos gyntaf eich hawliad tra bod penderfyniad yn cael ei wneud am eich gallu i weithio drwy'r Asesiad o Allu i Weithio
  • mae'r prif gyfnod yn dechrau yn wythnos 14 eich hawliad, os bydd yr Asesiad o Allu i Weithio'n dangos bod eich salwch neu anabledd yn cyfyngu ar eich gallu i weithio.

Ceir dau grŵp o fewn y prif gyfnod:

Grŵp Gweithgareddau Cysylltiedig â Gwaith

Os cewch eich rhoi yn y Grŵp Gweithgareddau Cysylltiedig â Gwaith, disgwylir i chi gymryd rhan mewn cyfweliadau sy'n canolbwyntio ar waith gyda'ch ymgynghorydd personol. Bydd amrywiaeth o gefnogaeth ar gael i chi i'ch helpu i baratoi ar gyfer gwaith addas.

Os gwnewch hyn, byddwch yn derbyn cydran gweithgareddau cysylltiedig â gwaith yn ogystal â'ch cyfradd sylfaenol.

Grŵp Cefnogi

Os cewch eich rhoi yn y Grŵp Cefnogi am bod eich salwch neu'ch anabledd yn cael effaith ddifrifol ar eich gallu i weithio, ni ddisgwylir i chi gymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau cysylltiedig â gwaith. Cewch wneud hynny'n wirfoddol os dymunwch.

Byddwch yn derbyn cydran cefnogaeth yn ogystal â'ch cyfradd sylfaenol.

Eich helpu i mewn i waith

Os ydych chi yn y Grŵp Gweithgareddau Cysylltiedig â Gwaith, byddwch yn gweld eich ymgynghorydd personol yn rheolaidd i drafod eich rhagolygon o gael gwaith. Byddant yn rhoi cymorth a chyngor i chi gyda'r canlynol:

  • eich nodau o ran swyddi
  • eich sgiliau, eich cryfderau a'ch galluoedd
  • camau y gallwch eu cymryd i helpu i ddod o hyd i waith addas
  • eich syniadau, eich problemau ac unrhyw faterion eraill sy'n ymwneud â gwaith yr hoffech siarad amdanynt.

Os byddwch yn gwrthod mynd i'r cyfweliadau sy'n canolbwyntio ar waith, neu'n gwrthod cymryd rhan lawn yn y cyfweliadau sy'n canolbwyntio ar waith, efallai y bydd hynny'n effeithio ar eich hawl i gael y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Os ydych chi yn y Grŵp Cefnogi, does dim rhaid i chi fynd i gyfweliadau, ond cewch ofyn am gael siarad ag ymgynghorydd personol os dymunwch.

Gweithio wrth hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Os ydych chi'n derbyn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, efallai y cewch wneud rhai mathau o waith - o fewn cyfyngiadau. Gelwir hyn yn Waith a Ganiateir.

Os ydych yn ennill arian tra'ch bod yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, gallai hyn effeithio ar y budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm yr ydych chi neu'ch partner yn eu derbyn, megis Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai neu Fudd-dal Treth Gyngor.

Allweddumynediad llywodraeth y DU