Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Y Gronfa Byw'n Annibynnol

Nod y Gronfa Byw'n Annibynnol yw eich helpu chi, os ydych chi'n ddifrifol anabl, i fyw'n annibynnol gartref yn hytrach na mewn cartref gofal preswyl. Gallwch ddefnyddio arian y gronfa i gyflogi pobl i roi gofal personol a domestig i chi yn eich cartref eich hun.

Pwy sydd yn gymwys?

Gallwch wneud cais i'r Gronfa Byw'n Annibynnol:

  • os ydych chi dros 16 a than 65 pan y derbynnir eich cais
  • os ydych chi eisoes yn derbyn cymorth gwerth o leiaf £320 yr wythnos gan y gwasanaethau cymdeithasol - gall hyn fod yn daliadau uniongyrchol a/neu yn wasanaethau gan eich awdurdod lleol, megis lle mewn canolfan ddydd
  • os ydych chi'n derbyn neu â'r hawl i dderbyn elfen gofal y Lwfans Byw i'r Anabl ar y gyfradd uchaf
  • os ydych chi'n byw ar eich pen eich hun neu gyda phobl nad ydynt yn gallu diwallu eich holl ofynion gofal
  • os ydych chi mewn perygl o orfod mynd i ofal preswyl, neu mewn gofal preswyl eisoes ac yn dymuno gadael a byw'n annibynnol
  • os ydych chi'n abl i fyw’n annibynnol am chwe mis nesaf o leiaf, ac i fyw o fewn terfyn ariannol penodol gan yr Awdurdod Lleol a’r Gronfa Byw’n Annibynnol ar y cyd (£785 yr wythnos ar hyn o bryd)
  • os ydych chi’n derbyn Cymhorthdal Incwm, neu’r elfen Gwarant o Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth ac mae gennych cynilion o lai na £22,250, neu’n cwrdd prawf modd tebyg
  • os ydych chi’n cwrdd ag amodau preswyliaeth a phresenoldeb yn y DU

Faint fyddwch chi'n ei gael?

Mae’r swm yr ydych yn derbyn yn seiliedig ar gost y gofal yr ydych angen, a chaiff ei chyfrif ar sail wrth yr awr neu wythnosol.

Y taliad uchafswm sydd ar gael yw £455 yr wythnos. Mae eich cynilion (cyfalaf), incwm a budd-daliadau a chostau penodol yn effeithio ar y swm yr ydych yn derbyn.

Mae gan y Gronfa Byw’n Annibynnol taflenni sy’n esbonio hyn yn fwy manwl.

Sut mae'n cael ei dalu

Caiff taliadau'r Gronfa Byw'n Annibynnol eu talu'n syth i unrhyw gyfrif o'ch dewis chi sy'n derbyn taliadau budd-daliadau. Gall hwn fod yn gyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post neu Gynilion Cenedlaethol.

Os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, neu os oes angen i'r sawl sy'n gofalu amdanoch gasglu'ch arian, mae'n bosibl i chi gael siec i'w chyfnewid am arian yn Swyddfa'r Post.

Yr effaith ar fudd-daliadau eraill

Chaiff taliadau'r Gronfa hon ddim effaith ar eich budd-daliadau eraill. Y rheswm dros hyn yw bod yr arian yn cael ei ddefnyddio i ofalu amdanoch, ac felly, nid yw'n cael ei ystyried yn incwm.

Ond, bydd y Gronfa Byw'n Annibynnol yn ystyried hanner y Lwfans Byw i'r Anabl a'r Premiwm Anabledd Difrifol wrth wneud yr asesiad ariannol.

Beth allwch chi ei wneud gyda'r arian hwn

Gallwch ddefnyddio arian y Gronfa Byw'n Annibynnol i dalu am gyflogi asiantaeth gofal neu gynorthwy-ydd(wyr) personol i'ch helpu gyda thasgau personol a domestig gan gynnwys:

  • cael bath, mynd i'r toiled, ymolchi a gwisgo
  • coginio a siopa
  • golchi dillad, glanhau a thasgau eraill o gwmpas y tŷ

Efallai y gallwch chi gael gofal personol ar gyfer yr adegau pan fyddwch chi'n cymdeithasu neu yn y gwaith.

Chewch chi ddim defnyddio'r arian hwn ar gyfer y pethau canlynol:

Chewch chi ddim defnyddio taliadau o'r Gronfa Byw'n Annibynnol i dalu am y canlynol:

  • talu cyflog i gymar, partner neu berthynas (gan gynnwys teulu-yng-nghyfraith) sy'n rhoi cymorth personol i chi ac yn byw yn eich tŷ
  • cael help gan y gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys gofal ysbaid mewn cartref preswyl, stamp gofal cartref neu unrhyw daliadau eraill
  • talu biliau'r cartref, gan gynnwys gwres, bwyd a dillad
  • golchi dillad y tu allan i'r cartref
  • gofal plant
  • gwaith garddio
  • cadeiriau olwyn neu offer neu ddodrefn arall
  • addasiadau i'ch cartref
  • cymorth i ofalu am unrhyw arall ar wahân i chi'ch hun
  • am wyliau
  • petrol a chostau teithio eraill
  • talu ffioedd ysbyty preifat neu gartref gofal preswyl
  • gwasanaeth trin gwallt neu drin traed, oni bai bod hynny ar gyfer gofal personol hanfodol
  • ffisiotherapi, aromatherapi, hydrotherapi neu dylino'r corff

Sut i wneud cais

Gallwch lwytho ffurflen gais o wefan y Gronfa Byw’n Annibynnol. Mae’r ffurflen yn cynnwys nodiadau i’ch cynorthwyo i’w llenwi.

Gallwch hefyd ofyn i adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol am ffurflen gais y Gronfa Byw’n Annibynnol.

Beth sy’n digwydd nesaf

Os mae’r Gronfa yn credu eich bod yn gymwys am daliad, bydd un o’i gweithwyr cymdeithasol yn cysylltu gyda’ch gweithiwr cymdeithasol awdurdod lleol i drefnu amser cyfleus i ymweld â chi i wneud asesiad uniad o’ch anghenion.

Pob dwy flynedd bydd y Gronfa Byw’n Annibynnol yn adolygu eich amgylchiadau i sicrhau eich bod dal yn derbyn y lefel gywir o daliadau.

Bydd aseswr annibynnol a’ch gweithiwr cymdeithasol awdurdod lleol neu reolwr gofal yn ymweld â chi i adolygu. Gallwch hefyd ofyn am gael ffrind, perthynas neu gynorthwy-ydd personol yn y cyfarfod adolygu.

Beth i'w wneud os bydd eich amgylchiadau'n newid

Dylech roi gwybod i'r Gronfa Byw'n Annibynnol cyn gynted ag y bo modd os bydd eich amgylchiadau'n newid oherwydd fe allai hynny olygu bod eich taliadau wythnosol yn cynyddu neu'n lleihau.

Sut i apelio

Os ydych chi'n anhapus am benderfyniad neu ddyfarniad gan y Gronfa Byw'n Annibynnol, cewch ofyn am 'adolygu penderfyniad' drwy ysgrifennu, anfon e-bost neu ffacs neu ffonio'r gronfa o fewn pedair wythnos i'r penderfyniad.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU