Ers mis Ebrill 2001, nid yw'n bosib gwneud hawliad newydd am y Lwfans Anabledd Difrifol. Cyn Ebrill 2001, mae'n bosib y byddech wedi gallu ei hawlio os nad oeddech wedi gallu gweithio am o leiaf 28 wythnos yn ddi-dor oherwydd salwch neu anabledd.
Allwch chi ddim hawlio o'r newydd am Lwfans Anabledd Difrifol. Ond os oeddech yn cael y lwfans cyn Ebrill 2001, byddwch yn parhau i'w dderbyn.
Roedd gennych hawl i'r Lwfans o bosib (cyn Ebrill 2001) os cawsoch eich asesu gydag anabledd o 80 y cant ac:
Y gyfradd wythnosol uchaf ar hyn o bryd yw £51.05 (os oeddech yn cael y Lwfans Anabledd Difrifol cyn Ebrill 2001).
Efallai eich bod yn cael swm wythnosol ychwanegol yn gysylltiedig ag oedran yn dibynnu ar eich oed pan ddaethoch yn anabl i weithio. Os oeddech, cyn Ebrill 2001:
Mae'r Budd-dal Anabledd Difrifol yn cael ei dalu'n syth i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post neu Gynilion Cenedlaethol sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol.
Os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, neu os oes angen i'r sawl sy'n gofalu amdanoch gasglu'ch arian, anfonir siec atoch y gellir ei chyfnewid am arian yn Swyddfa'r Post.
Mae 'na rai mathau o 'waith wedi'i eithrio' y gallwch ei wneud a chael Lwfans Anabledd Difrifol yr un pryd. Gofynnwch yn eich Canolfan Byd Gwaith neu swyddfa nawdd cymdeithasol leol am ragor o fanylion.
Ond os ydych yn cael Lwfans Anabledd Difrifol a chyflog, gallai hyn effeithio ar y budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm yr ydych yn eu derbyn, megis Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor.
Fel arfer, allwch chi ddim hawlio Lwfans Anabledd Difrifol os nad ydych yn ei gael yn barod. Ond efallai y bydd modd i chi hawlio os ydych wedi cael Lwfans Anabledd Difrifol cyn Ebrill 2001 ac
Os ydych chi'n meddwl bod modd i chi hawlio neu os hoffech gael mwy o wybodaeth cysylltwch â swyddfa'ch Canolfan Byd Gwaith leol.
Mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'ch swyddfa Canolfan Waith os bydd eich amgylchiadau'n newid. Er enghraifft:
Os byddwch yn mynd dramor yn barhaol neu dros dro, efallai y bydd gennych hawl i gael rhyw fath o Lwfans Anabledd Difrifol dramor. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'ch Canolfan Waith leol.
Os ydych chi'n credu y byddech chi wedi bod â hawl i gael Lwfans Anabledd Difrifol pan oedd hwnnw ar gael cyn mis Ebrill 2001, efallai y bydd modd i chi hawlio Budd-dal Analluogrwydd yn awr.
Am gyngor cyffredinol, cysylltwch â'r Llinell Ymholiadau Budd-daliadau ar:
Rhif ffôn: 0800 88 22 00
Ffôn testun: 0800 24 33 55
Gallwch hefyd ddefnyddio gwasanaeth Typetalk RNID.
Mae'r Llinell Ymholiadau Budd-daliadau ar agor rhwng 8.30 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9.00 am a 1.00 pm ar ddydd Sadwrn.