Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Lwfans Gweini Cyson

Os oes angen sylw a gofal dyddiol arnoch oherwydd anabledd a'ch bod yn hawlio Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol neu Bensiwn Anabledd Rhyfel gallwch hawlio'r Lwfans Gweini Cyson.

Y Ganolfan Byd Gwaith sy'n gofalu am hawliadau'r Lwfans Gweini Cyson ar gyfer anafiadau diwydiannol ac Asiantaeth Personél Milwrol a Chyn-filwyr sy'n gofalu am hawliadau ar gyfer pobl gyda phensiwn rhyfel.

Pwy sy'n gymwys?

Er mwyn bod yn gymwys i gael y Lwfans Gweini Cyson, mae'n rhaid i chi fod yn hawlio un o'r canlynol:

  • Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
  • Pensiwn Anabledd Rhyfel

Os ydych yn hawlio Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol

I hawlio Lwfans Gweini Cyson, rhaid i chi:

  • bod angen gofal a sylw beunyddiol arnoch (er enghraifft, nyrsio gartref neu brydau yn y cartref)
  • bod yn 100 y cant anabl yn ôl archwiliad meddygol

Gallwch gysylltu â'ch Canolfan Waith leol i ganfod a ydych yn gymwys i hawlio'r Lwfans Gweini Cyson.

Os ydych yn hawlio Pensiwn Anabledd Rhyfel

I hawlio Lwfans Gweini Cyson, rhaid i chi:

  • bod angen cymorth personol arnoch am yr un rhesymau ag yr ydych yn cael pensiwn rhyfel
  • bod yn cael pensiwn rhyfel o 80 y cant neu fwy

I ganfod a ydych yn gymwys i hawlio'r Lwfans Gweini Cyson, gallwch gysylltu â llinell gymorth yr Asiantaeth Personél Milwrol a Chyn-filwyr ar:

Rhif ffôn: 0800 169 2277

Ffôn testun: 0800 169 3458

Mae'r llinell gymorth ar agor rhwng 8.15 am a 5.15 pm o Ddydd Llun i Ddydd Iau a rhwng 8.15 am a 4.30 pm ar ddydd Gwener.

Faint fyddwch chi'n ei gael?

Mae'r Lwfans Gweini Cyson ar gael ar bedair cyfradd wahanol, yn dibynnu ar faint eich anabledd a faint o ofal sydd ei angen arnoch:

Cyfradd Swm wythnosol
Cyfradd eithriadol £109.60
Cyfradd ganolradd £82.20
Cyfradd uchaf arferol £54.80
Cyfradd ran amser £27.40

Sut mae'n cael ei dalu

Gellir talu'r Lwfans Gweini Cyson yn syth i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post neu Gynilion Cenedlaethol sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol.

Os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, neu os oes angen i'r sawl sy'n gofalu amdanoch gasglu eich arian, anfonir siec atoch y gellir ei chyfnewid am arian yn Swyddfa'r Post.

Sut mae hawlio

Ar gyfer achosion anaf diwydiannol

Gallwch ofyn i'ch Canolfan Waith leol am ffurflen hawlio BI104 neu ei llwytho oddi ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Ar gyfer achosion pensiwn rhyfel

Gall yr Asiantaeth Personél Milwrol a Chyn-filwyr anfon ffurflen hawlio atoch - WPA 0003 (CAA). Gallwch gysylltu â hwy ar:

Rhif ffôn: 0800 169 2277

Ffôn testun: 0800 169 3458

Mae'r llinell gymorth ar agor rhwng 8.15 am a 5.15 pm o Ddydd Llun i Ddydd Iau a rhwng 8.15 am a 4.30 pm ar ddydd Gwener.

Beth i'w wneud os bydd eich amgylchiadau'n newid

Dylech ddweud wrth eich Canolfan Waith leol neu'r Asiantaeth Personél Milwrol a Chyn-filwyr os bydd eich amgylchiadau'n newid. Er enghraifft:

  • os byddwch yn mynd i'r ysbyty neu'n gadael yr ysbyty
  • os byddwch yn mynd i gartref gofal neu gartref gofal a nyrsio neu'n gadael cartref o'r fath
  • os bydd eich cymar neu'ch partner sifil yn mynd i'r ysbyty (os ydych yn cael arian ychwanegol amdano/i)
  • os byddwch yn gadael y DU i fyw dramor yn barhaol

Beth arall y mae angen i chi ei wybod

Os ydych yn cael 'Cyfradd eithriadol' neu 'Gyfradd ganolradd' y Lwfans Gweini Cyson, efallai y byddwch hefyd yn gallu cael y Lwfans Anabledd Difrifol Eithriadol.

Gallwch gysylltu â'r Asiantaeth Personél Milwrol a Chyn-filwyr neu'ch Canolfan Waith leol am gyngor.

Llinell Ymholiadau Budd-daliadau

Am gyngor cyffredinol, ffoniwch y Llinell Ymholiadau Budd-daliadau ar:

Rhif ffôn:  0800 882 200

Ffôn testun: 0800 243355

Gallwch hefyd ddefnyddio gwasanaeth Typetalk RNID.

Mae ar agor rhwng 8.30 am a 6.30 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9.00 am ac 1.00 pm ar ddydd Sadwrn.

Llinell Gymorth yr Asiantaeth Personél Milwrol a Chyn-filwyr

Gallwch hefyd ffonio llinell gymorth yr Asiantaeth Personél Milwrol a Chyn-filwyr ar:

Rhif ffôn: 0800 169 2277

Ffôn testun: 0800 169 3458

Mae'r llinell gymorth ar agor rhwng 8.15 am a 5.15 pm o Ddydd Llun i Ddydd Iau a rhwng 8.15 am a 4.30 pm ar ddydd Gwener.

Additional links

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU