Premiymau i bobl anabl
Os ydych chi'n anabl ac yn cael Cymhorthdal Incwm, efallai eich bod yn gymwys i dderbyn premiwm ar ben y lwfans personol sylfaenol.
Y Premiwm Anabledd
Os ydych chi dan 60 mlwydd oed, mae'n bosib y cewch chi'r premiwm hwn os yw un o'r canlynol yn berthnasol i chi:
- rydych yn derbyn Lwfans Byw i’r Anabl
- rydych yn derbyn Budd-dal Analluogrwydd - cyfradd tymor hir
- rydych yn derbyn y Lwfans Anabledd Difrifol
- rhoddir cerbyd pobl anabl i chi
- rydych yn derbyn taliadau drwy'r cynllun cerbydau pobl anabl, neu'r cynllun cerbydau pensiynwyr rhyfel
- mae cydran symudedd eich Lwfans Byw i'r Anabl yn cael ei dalu'n uniongyrchol i Motability Operations
- rydych wedi'ch cofrestru'n ddall
- mae'ch partner yn derbyn unrhyw un o'r uchod
- mae'ch partner yn derbyn Lwfans Gweini
Efallai y cewch y premiwm anabledd hefyd os derbynnir nad ydych yn medru gweithio (neu'ch bod yn derbyn Tâl Salwch Statudol am o leiaf 364 diwrnod (196 diwrnod os ydych yn derfynol wael). Gellir cysylltu cyfnodau o analluogrwydd sydd â 56 diwrnod neu lai rhyngddynt wrth gyfrifo'r cyfnod cymhwyso.
Y Premiwm Anabledd Difrifol
Cyfradd sengl
Os ydych chi'n sengl, efallai y cewch y premiwm cyfradd is os ydych yn byw ar eich pen eich hun heb neb yn gofalu amdanoch ac yn cael y gyfran ganol neu uwch o'r Lwfans Byw i'r Anabl.
Cyplau (y gyfradd uwch)
Os oes gennych bartner, efallai y cewch y premiwm cyfradd uwch os nad oes neb arall yn byw gyda chi, nad oes neb yn cael Lwfans Gofalwr am ofalu amdanoch, a naill ai:
- bod y ddau ohonoch yn cael cyfradd ganol neu uchaf elfen ofal y Lwfans Byw i'r Anabl; neu
- eich bod yn cael cyfradd ganol neu uchaf elfen ofal Lwfans Byw i'r Anabl a'ch partner yn cael Lwfans Gweini
Cyplau (y gyfradd is)
Os oes gennych bartner, efallai y cewch y premiwm cyfradd is os nad oes neb arall yn byw gyda chi a naill ai:
- rydych eich dau'n derbyn cyfradd ganol neu uchaf elfen ofal Lwfans Byw i'r Anabl, a dim ond un ohonoch sy'n derbyn Lwfans Gofalwr; neu
- rydych yn derbyn cyfradd ganol neu uchaf elfen ofal Lwfans Byw i'r Anabl ac mae'ch partner yn derbyn Lwfans Gweini, a dim ond un ohonoch sy'n derbyn Lwfans Gofalwr; neu
- rydych yn derbyn cyfradd ganol neu uchaf elfen ofal y Lwfans Byw i'r Anabl ac mae'ch partner wedi ei gofrestru/ei chofrestru'n ddall, ac nid oes neb yn derbyn Lwfans Gofalwr am ofalu amdanoch
Gellir rhoi'r Premiwm Anabledd Difrifol yn ogystal â phremiymau eraill.
Y Premiwm Anabledd Uwch
Cyfradd sengl
Os ydych chi'n sengl ac o dan 60 mlwydd oed, efallai y gallech dderbyn y premiwm hwn os yw un o'r canlynol yn berthnasol i chi:
- rydych yn derbyn y gyfradd uchaf o elfen ofal Lwfans Byw i'r Anabl; neu
- mae gennych blentyn neu blant dibynnol sy'n derbyn y gyfradd uchaf o elfen ofal Lwfans Byw i'r Anabl
Cyfradd cyplau
Os oes gennych bartner, efallai y cewch y premiwm cyfradd cyplau os ydych chi neu'ch partner yn derbyn cyfradd uchaf elfen ofal y Lwfans Byw i'r Anabl.
Gellir rhoi'r Premiwm Anabledd Uwch yn ogystal â phremiymau eraill.