Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Mynd â budd-daliadau anabledd i wledydd eraill yn Ewrop

Ym mis Hydref 2007, penderfynodd Llys Cyfiawnder Ewrop fod rhai budd-daliadau anabledd a budd-daliadau gofalwyr yn fudd-daliadau salwch, ac y gellir eu talu i bobl sydd wedi gadael y DU i fyw yn rhywle arall yn Ardal Economaidd Ewrop (AEE) neu yn y Swistir.

Budd-daliadau yr effeithir arnynt

Mae'r penderfyniad yn effeithio ar:

  • Lwfans Byw i’r Anabl (elfen ofal yn unig)
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Gofalwr

Nid yw'r penderfyniad hwn yn effeithio ar elfen symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl.

Pwy all barhau i gael y budd-daliadau

Ceir pedwar prif grŵp o bobl a gaiff barhau i gael y budd-daliadau hyn os byddant yn symud o'r DU i fyw yn un o wladwriaethau eraill AEE neu yn y Swistir. Mae AEE yn cynnwys 27 aelod-wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd yn ogystal â Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy.

Cewch barhau i gael y budd-daliadau hyn:

  • os ydych yn gweithio yn y DU neu'n talu Yswiriant Gwladol yn y DU oherwydd eich gwaith, ond yn byw yn un o wladwriaethau eraill AEE neu yn y Swistir, ac felly'n dod yn weithiwr sy'n byw mewn gwlad wahanol i'r wlad y mae'n gweithio ynddi ac yn dychwelyd i'r wlad honno o leiaf unwaith yr wythnos (gweithiwr dros y ffin) neu'n weithiwr sydd, am gyfnod cyfyngedig, yn gwneud ei waith mewn aelod-wladwriaeth wahanol i'r un y mae'n arfer gweithio ynddi (gweithiwr a anfonwyd i wlad arall)
  • os ydych wedi talu digon o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol i allu hawlio budd-dal salwch ar sail cyfraniadau yn y DU
  • os ydych yn cael Pensiwn y Wladwriaeth, Budd-dal Anafiadau Diwydiannol, Budd-dal Analluogrwydd, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail cyfraniadau neu Fudd-daliadau Profedigaeth o'r DU - cyfeirir at y rhain fel 'budd-daliadau perthnasol'
  • os ydych yn aelod o deulu (priod, partner sifil neu rywun sy'n ddibynnol ar riant) rhywun sy'n gweithio yn y DU, neu sydd wedi talu digon o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol i allu cael budd-dal salwch ar sail cyfraniadau yn y DU, neu sy'n cael Budd-dal Analluogrwydd tymor byr neu gyfradd cyfnod asesu'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail cyfraniadau

Gall tîm allforio'r Adran Gwaith a Phensiynau edrych ar eich cofnodion Yswiriant Gwladol i chi.

Pethau eraill i fod yn ymwybodol ohonynt

Os gallwch gael budd-dal salwch gan wladwriaeth arall o Ardal Economaidd Ewrop neu'r Swistir neu os ydych yn gweithio yn un o wladwriaethau eraill yr AEE neu yn y Swistir, gall hyn effeithio ar eich hawl i fynd â'r budd-dal anabledd gyda chi pan fyddwch yn symud.

Os oes gennych hawl fel aelod o deulu, mae'n bosib yr effeithir ar eich hawl i fynd â'r budd-dal anabledd gyda chi pan fyddwch yn symud os gall eich partner, eich partner sifil neu'ch rhiant gael budd-dal salwch neu os ydynt yn gweithio yn un o wladwriaethau eraill AEE neu yn y Swistir.

Os ydych yn cael pensiwn ymddeol neu'r budd-dal analluedd o wladwriaeth arall yn AEE neu'r Swistir, efallai y gallwch hawlio budd-dal anabledd o'r wlad honno yn hytrach nag o'r DU.

Mae'n dal yn ofynnol eich bod yn bodloni'r amodau hawlio arferol ar gyfer y budd-daliadau yr ydych am fynd â hwy gyda chi. Yr unig wahaniaeth ar ôl i chi symud yw na fydd yn ofynnol eich bod bellach:

  • yn preswylio'n arferol yn y DU
  • yn y DU

Os ydych yn derbyn rhai budd-daliadau eraill, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth, sy'n cael eu talu ar yr un gyfradd â'r Lwfans Gofalwr neu ar gyfradd uwch, efallai na chewch Lwfans Gofalwr.

Am ba hyd y telir y budd-daliadau

Os cewch fynd â'ch budd-daliadau gyda chi pan fyddwch yn symud i fyw i wladwriaeth arall yn Ardal Economaidd Ewrop neu yn y Swistir, bydd yr amser y byddwch yn parhau i gael eich talu yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Os bydd eich anghenion neu'ch amgylchiadau'n newid, gallai hyn effeithio ar y cyfnod y bydd eich budd-dal yn cael ei dalu i chi.

Os ydych chi'n cael 'budd-daliadau perthnasol' o'r DU, bydd eich budd-dal anabledd yn cael ei dalu tra byddwch yn cael un o'r budd-daliadau hynny, neu tra byddwch yn cael eich budd-dal anabledd cyfredol, os yw'r cyfnod hwnnw'n llai.

Os ydych wedi talu digon o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol i allu hawlio budd-dal salwch ar sail cyfraniadau, caiff eich budd-dal ei dalu tra byddwch wedi'ch yswirio rhag y cyfraniadau hyn, neu tra byddwch yn cael eich dyfarniad os yw'r cyfnod hwnnw'n llai.

Os ydych chi'n hawlio fel aelod o deulu:

  • rhywun sy'n gweithio yn y DU, telir eich budd-dal tra bydd yr unigolyn hwnnw'n parhau i weithio yn y DU, neu tra byddwch yn cael eich dyfarniad os yw'r cyfnod hwnnw'n llai
  • rhywun sydd wedi talu digon o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol iddynt allu hawlio budd-dal salwch ar sail cyfraniadau, caiff eich budd-dal ei dalu tra bydd yr unigolyn hwnnw wedi'i yswirio rhag eu cyfraniadau, neu tra byddwch yn cael eich dyfarniad os yw'r cyfnod hwnnw'n llai
  • rhywun sy'n derbyn Budd-dal Analluogrwydd tymor byr neu gyfradd cyfnod asesu'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail cyfraniadau, telir eich budd-dal tra bydd yr unigolyn hwnnw'n parhau i gael y budd-dal hwnnw, neu tra byddwch yn cael eich dyfarniad os yw'r cyfnod hwnnw'n llai

Os gallwch gael budd-dal salwch neu bensiwn ymddeol gan wladwriaeth arall yn AEE neu'r Swistir neu os ydych yn gweithio yn un o wladwriaethau eraill AEE neu yn y Swistir, gallai hyn effeithio ar eich hawl i barhau i gael eich budd-dal anabledd o'r DU.

Os oes gennych hawl fel aelod o deulu, mae'n bosib yr effeithir ar eich hawl i barhau i gael y budd-dal anabledd os gall eich partner, eich partner sifil neu'ch rhiant gael budd-dal salwch neu os ydynt yn dechrau gweithio mewn gwladwriaeth arall yn AEE neu'r Swistir.

Beth i'w wneud nesaf

Os ydych yn symud i fyw i un o wladwriaethau eraill AEE neu i'r Swistir, bydd angen i chi roi gwybod i'r tîm allforio am y newid yn eich amgylchiadau.

Pan fyddwch yn cysylltu â'r tîm allforio, rhowch wybod iddynt:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • a ydych yn mynd i weithio yn un o wladwriaethau eraill AEE neu yn y Swistir
  • a ydych eisoes yn cael unrhyw fudd-daliadau eraill gan wladwriaeth arall neu os byddwch yn gallu cael rhai

Os ydych yn symud i fyw i wladwriaeth arall yn Ardal Economaidd Ewrop neu i'r Swistir a'ch bod yn credu bod gennych hawl fel aelod o deulu, dywedwch wrthynt hefyd:

  • pwy yw'r aelod o'r teulu
  • beth yw eu rhif Yswiriant Gwladol
  • a ydynt yn mynd i weithio mewn gwladwriaeth arall yn AEE neu'r Swistir
  • a ydynt eisoes yn cael budd-daliadau eraill gan wladwriaeth arall neu os byddech yn gallu cael rhai

Os ydych yn credu y gallai penderfyniad y llys effeithio arnoch ac nad ydych yn siŵr beth i'w wneud, neu os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch, dylech gysylltu â'r tîm allforio.

Os ydych eisoes wedi cysylltu â'r tîm allforio ynghylch y penderfyniad, ni fydd angen i chi gysylltu â nhw eto.

Os byddwch yn gofyn am gael allforio eich budd-dal anabledd ac nad ydych yn bodloni'r amodau perthnasol, ni fydd eich cais yn cael ei ganiatáu. Byddwch yn gallu gofyn i'ch cais gael ei ailystyried ac yn gallu apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw, ond ceir dyddiadau cau penodol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU