Taliad wythnosol yw'r Budd-dal Analluogrwydd (BA) i bobl dan oedran pensiwn y wladwriaeth na allan nhw weithio oherwydd anabledd neu salwch.
Pan fyddwch yn gwneud hawliad am Fudd-dal Analluogrwydd, byddwch fel arfer yn cael Asesiad Galluogrwydd Personol, oni bai fod gennych anabledd neu salwch difrifol sy'n dod dan gategori eithriedig. Gall y swyddfa sy'n delio gyda'ch hawliad roi mwy o wybodaeth i chi am eithriadau.
Fe all yr Asesiad Galluogrwydd Personol olygu archwiliad meddygol os oes angen rhagor o wybodaeth am eich cyflwr cyn y gellir prosesu'ch cais.
Asesiad Galluogrwydd Personol yw'r prif asesiad ar gyfer hawliadau Budd-dal Analluogrwydd. Bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cymeradwy, sydd wedi'i hyfforddi i drin hawliadau Budd-dal Analluogrwydd, yn asesu eich hawliad ac yn cynghori'r Adran Gwaith a Phensiynau sy'n gyfrifol am hawliadau budd-dal.
Mae'n bosib y bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cymeradwy yn argymell eich bod yn cael archwiliad meddygol os teimla bod angen rhagor o wybodaeth am eich cyflwr.
Mae'r Asesiad Galluogrwydd Personol yn berthnasol:
Yn ystod eich Asesiad Galluogrwydd Personol, gall y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cymeradwy gynhyrchu Adroddiad Galluogrwydd ar wahân. Bydd hwn yn cynnwys gwybodaeth am eich galluoedd ac am unrhyw gymorth y gall fod ei angen arnoch i'ch cefnogi i ddychwelyd i'r gwaith.
Anfonir yr Adroddiad Galluogrwydd at eich cynghorydd personol a fydd yn ei ddefnyddio i ddarparu cymorth i wella eich cyflogadwyedd, ac i gynllunio llwybr ar gyfer dychwelyd i weithio.
Ni fydd y sawl sy'n penderfynu ar fudd-daliadau yn y Ganolfan Byd Gwaith yn gweld yr Adroddiad Galluogrwydd ac ni fydd yn cael ei ddefnyddio i benderfynu a oes gennych hawl i gael budd-dal neu beidio.
Fe'ch cynghorir os bydd Adroddiad Galluogrwydd yn cael ei baratoi yn eich achos chi.
Mae'n bosib bod sawl rheswm dros ofyn i chi ddod am archwiliad meddygol. Yn aml iawn, y rheswm yw bod angen mwy o wybodaeth feddygol cyn y gellir cymeradwyo'ch cais. Nid yw'n golygu bod y wybodaeth roesoch chi ar eich ffurflen gais yn cael ei hystyried yn amheus nac y bydd eich cais yn cael ei wrthod.
Ni chaiff eich cais am fudd-dal ei wrthod heb i chi naill ai gael archwiliad meddygol neu gael cynnig un.
Pan fyddwch chi'n hawlio Budd-dal Analluogrwydd, rhaid i chi lenwi holiadur am sut mae'ch anabledd neu'ch salwch yn effeithio ar eich gallu i gyflawni tasgau beunyddiol. Mae'n bosib y gofynnir i'ch meddyg eich hun ddarparu adroddiad meddygol.
Bydd gweithiwr proffesiynol gofal iechyd cymeradwy yn ystyried yr holiadur ac unrhyw adroddiadau meddygol, ynghyd ag unrhyw wybodaeth yr ydych chi o bosib wedi'i darparu. Os bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cymeradwy yn teimlo y bydd angen rhagor o wybodaeth ar yr Adran Gwaith a Phensiynau cyn iddynt allu gwneud penderfyniad am eich hawliad am fudd-dal, byddant yn argymell i chi gael archwiliad meddygol.
Fel arfer, cynhelir yr archwiliad meddygol mewn Canolfan Archwiliadau Meddygol yn eich ardal chi. Fodd bynnag, os nad ydych chi'n ddigon iach i deithio neu os ydych chi'n byw fwy na 90 munud o waith teithio o'r ganolfan agosaf, mae'n bosib y daw'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cymeradwy i'ch gweld yn eich cartref.
Bydd Atos Healthcare yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad. Os ydych chi wedi darparu rhif ffôn cyswllt, byddant yn cysylltu â chi. Fel arall, byddant yn anfon llythyr atoch gyda dyddiad ar gyfer apwyntiad. Bydd modd i chi ei newid os nad yw'r amser yn addas i chi.
Mae'n bwysig iawn eich bod yn mynd i gael eich asesiad meddygol oherwydd mae'n bosib yr effeithir ar eich budd-dal os na wnewch hynny. Os nad ydych yn gallu mynd i gael yr asesiad am unrhyw reswm, dylech gysylltu â'r Ganolfan Archwiliadau Meddygol ymlaen llaw a threfnu apwyntiad arall.
Mae gennych yr hawl i'r canlynol:
Rhaid i chi roi gwybod i'r Ganolfan Archwiliadau Meddygol ymlaen llaw os ydych chi'n dymuno cael cyfieithydd neu weithiwr proffesiynol gofal iechyd cymeradwy o'r un rhyw â chi. Byddant yn gwneud eu gorau i ddod o hyd i un i chi, ond ni fydd hyn bob tro'n bosib mewn rhai ardaloedd.