Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

'Gwaith a Ganiateir' - gweithio a chithau'n hawlio Budd-dal Analluogrwydd

Fel arfer, chewch chi ddim gweithio a chael Budd-dal Analluogrwydd oherwydd salwch neu anabledd.

Fodd bynnag, efallai y byddwch yn gallu gwneud rhai mathau o waith - o fewn terfynau. Gelwir hyn yn 'Waith a Ganiateir' ac mae'n fodd i chi brofi eich gallu eich hun i wneud rhywfaint o waith, a dysgu sgiliau newydd o bosibl. Rhaid i chi holi yn eich Canolfan Byd Gwaith neu eich Canolfan Waith leol cyn i chi ddechrau.

Gwaith a Ganiateir

Trefniant budd-dal yw Gwaith a Ganiateir - nid yw cyflogwyr yn cynnig 'gwaith a ganiateir'. Nid oes rhaid cael cymeradwyaeth eich meddyg na phrawf meddygol dim ond am eich bod yn gwneud gwaith a ganiateir. Fodd bynnag, os ydych i fod i gael prawf meddygol fel rhan o'r adolygiad sy'n ymwneud â'ch budd-daliadau, bydd yn dal i gael ei gynnal.

Gallwch weithio:

  • am gyflog o hyd at a chan gynnwys £20.00 yr wythnos am gyfnod amhenodol, neu
  • am lai na 16 awr yr wythnos, ar gyfartaledd, am gyflog o hyd at a chan gynnwys £92.00 yr wythnos am gyfnod o 52 wythnos
  • am lai na 16 awr yr wythnos, ar gyfartaledd, ac ennill hyd at a chan gynnwys £92.00 yr wythnos cyhyd ag yr ystyrir bod eich salwch neu'ch anabledd yn ddigon difrifol i chi gwrdd â'r trothwy analluedd heb gael asesiad meddygol

Gwaith a Ganiateir gyda Chymorth

Mae Gwaith a Ganiateir gyda Chymorth yn golygu gwaith a oruchwylir gan rywun a gyflogir gan awdurdod cyhoeddus neu awdurdod lleol, neu fudiad gwirfoddol sydd â'r rôl o drefnu gwaith i bobl anabl.

Mae'n cynnwys gwaith a wneir yn y gymuned neu mewn gweithdy cysgodol. Mae hefyd yn cynnwys gwaith dan oruchwyliaeth feddygol fel rhan o raglen driniaeth mewn ysbyty.

Gallwch wneud Gwaith a Ganiateir gyda Chymorth am gyflog o hyd at a chan gynnwys £92.00 yr wythnos am gyfnod amhenodol.

Treth Incwm

Os byddwch yn dechrau mewn gwaith a ganiateir, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth ar eich incwm ychwanegol. Rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM cyn gynted ag y byddwch yn dechrau gweithio.

Yr effaith ar fudd-daliadau eraill

Os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai neu Fudd-dal y Dreth Gyngor ac yn gwneud Gwaith a Ganiateir, bydd unrhyw enillion yn cael eu hystyried wrth asesu'r budd-daliadau hyn.

Gallwch weithio ac ennill hyd at derfyn Gwaith a Ganiateir o £92.00 neu £20.00 - yn dibynnu ar y math o waith a ganiateir yr ydych yn ei wneud - ac ni fydd hyn yn cael unrhyw effaith ar eich Budd-dal Analluogrwydd.

Cael gwybod mwy am Waith a Ganiateir

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â chynghorydd personol neu Gynghorydd Cyflogaeth i Bobl Anabl yn eich Canolfan Waith leol neu'r swyddfa Canolfan Byd Gwaith.

Additional links

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU