Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Budd-dal Analluogrwydd

Os na allwch chi weithio oherwydd salwch neu anabledd efallai y gallwch chi gael Budd-dal Analluogrwydd, sef taliad wythnosol ar gyfer pobl sy'n canfod nad ydynt yn gallu gweithio a hwythau o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Lwfans Cyflogaeth a Chefnogaeth

Bydd y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn cael ei gyflwyno o 27 Hydref 2008 ymlaen.

Bydd yn cymryd lle Budd-dal Analluogrwydd a Chymhorthdal Incwm, a delir oherwydd salwch neu anabledd, i hawlwyr newydd yn unig. Os ydych chi eisoes yn cael Budd-dal Analluogrwydd, byddwch yn parhau i'w dderbyn. Y bwriad yw y bydd y derbynyddion yn symud i'r budd-dal newydd rhwng 2009 a 2013.

Bydd mwy o wybodaeth am y newidiadau hyn ar gael yn 2009.

Bod yn gymwys am Fudd-dal Analluogrwydd

Efallai y gallwch hawlio Budd-dal Analluogrwydd os oes unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol i chi:

  • mae eich Tâl Salwch Statudol wedi dod i ben, neu nid oes modd i chi ei gael
  • rydych yn hunangyflogedig neu'n ddi-waith
  • rydych wedi bod yn cael Tâl Mamolaeth Statudol (SMP) a heb fynd yn ôl i weithio i'ch cyflogwr gan nad ydych yn medru gweithio
  • roeddech o dan oed Pensiwn y Wladwriaeth pan aethoch chi'n sâl

Rhaid eich bod hefyd:

  • wedi bod yn talu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol
  • wedi methu gweithio oherwydd salwch neu anabledd am o leiaf bedwar diwrnod yn olynol (gan gynnwys penwythnosau a gwyliau cyhoeddus)
  • wedi methu gweithio am ddau ddiwrnod neu ragor allan o saith niwrnod olynol
  • yn cael triniaeth feddygol arbenigol

neu mae'n rhaid eich bod:

  • rhwng 16 a 20 oed (neu o dan 25 oed os oeddech ar gwrs addysg neu hyfforddiant am o leiaf dri mis yn union cyn eich pen-blwydd yn 20)
  • wedi bod yn rhy sâl i weithio oherwydd salwch neu anabledd am o leiaf 28 wythnos
  • wedi bod yn rhy sâl i weithio cyn eich pen-blwydd yn 20 oed (neu o dan 25 oed os oeddech ar gwrs addysg neu hyfforddiant am o leiaf dri mis yn union cyn eich pen-blwydd yn 20)

Os ydych wedi bod yn byw neu'n gweithio dramor

Gall byw neu weithio dramor effeithio ar eich hawliad am Fudd-dal Analluogrwydd. Ond efallai y gallwch ei hawlio os ydych naill ai:

  • wedi talu digon o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol y DU yn y gorffennol (a nifer cyfatebol mewn gwledydd penodol eraill - gofynnwch yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol am fanylion) neu
  • wedi gweithio dramor i gyflogwr o'r DU ac wedi talu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol am 52 wythnos gyntaf y gwaith hwnnw

Os nad ydych wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol

Efallai y gallwch hawlio Budd-dal Analluogrwydd er nad ydych wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol:

  • os ydych o dan 20 oed (neu 25 oed os oeddech ar gwrs addysg neu hyfforddiant am o leiaf dri mis yn union cyn eich pen-blwydd yn 20 oed), ac
  • os ydych wedi bod yn sâl am 28 wythnos, ac
  • os oeddech yn bresennol ac yn preswylio ym Mhrydain Fawr am 26 wythnos yn y flwyddyn cyn i chi hawlio

Os ydych yn y Lluoedd Arfog neu os ydych yn byw ac yn gweithio yn Ardal Economaidd Ewrop (AEE), mae'n bosibl y cewch eich trin fel petaech chi'n dal i breswylio yn y DU.

Sut y mae'n gweithio

Mae Budd-dal Analluogrwydd yn cael ei dalu yn ôl tair cyfradd wythnosol:

  • telir Budd-dal Analluogrwydd tymor byr (is) am yr 28 wythnos gyntaf
  • telir Budd-dal Analluogrwydd tymor byr (uwch) o wythnosau 29 i 52
  • telir Budd-dal Analluogrwydd hirdymor o wythnos 53 ymlaen

Faint fyddwch chi'n ei gael?

Y symiau wythnosol ar hyn o bryd

Cyfradd wythnosol  Swm Swm os ydych dros oed Pensiwn y Wladwriaeth
tymor byr (cyfradd is) £63.75 £81.10
tymor byr (cyfradd uwch) £75.40 £84.50
hirdymor - cyfradd sylfaenol £84.50 Nid ydych yn gymwys i gael BA sylfaenol hirdymor

Efallai y gallwch gael budd-dal 'ychwanegiad oedran' gyda'r Budd-dal Analluogrwydd hirdymor os oeddech o dan 45 pan aethoch yn rhy sâl neu'n rhy anabl i weithio.

Efallai y gallwch gael budd-dal ychwanegol ar gyfer eich cymar neu'ch partner sifil neu'r person sy'n gofalu am eich plentyn.

Rheolau incwm pensiwn

Os byddwch yn gwneud hawliad newydd am Fudd-dal Analluogrwydd nad yw'n gysylltiedig â hawliad blaenorol, a bod eich incwm pensiwn gros yn fwy na £85 yr wythnos, bydd y swm ychwanegol, sef y gwahaniaeth rhwng £85 a'ch incwm pensiwn gwirioneddol, yn cael ei haneru a'i dynnu o'r budd-dal.

Y swm ychwanegol yw'r gwahaniaeth rhwng £85 a'r incwm pensiwn gwirioneddol. Er enghraifft, ar gyfer incwm pensiwn o £100, mae'r swm ychwanegol yn £15. Hanerir hynny er mwyn canfod faint o Fudd-dal Analluogrwydd sy'n daladwy - £7.50 yn yr achos hwn.

Eithriadau

Nid yw'r rheol hon yn berthnasol:

  • os oeddech chi'n cael Budd-dal Analluogrwydd cyn 6 Ebrill 2001
  • os gwneir eich hawliad dan y rheolau cysylltu ar gyfer Budd-dal Analluogrwydd a'u bod yn berthnasol i'r cyfnod cyn 6 Ebrill 2001
  • os ydych chi'n cael y gyfradd uchaf o elfen ofal Lwfans Byw i'r Anabl

Sut mae'n cael ei dalu

Mae Budd-dal Analluogrwydd yn cael ei dalu'n syth i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post neu Gynilion Cenedlaethol - sef unrhyw gyfrif sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol.

Os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, neu os oes angen i'r sawl sy'n gofalu amdanoch gasglu'ch arian, gellir anfon eich taliad gyda siec y gellir ei chyfnewid am arian yn Swyddfa'r Post.

Asesiad Galluogrwydd Personol ac archwiliad meddygol

Pan fyddwch yn gwneud hawliad am Fudd-dal Analluogrwydd byddwch fel arfer yn cael Asesiad Galluogrwydd Personol. Fel rhan o'r asesiad hwn, efallai y bydd meddyg yn argymell i chi fynd i gael archwiliad meddygol.

Gweithio wrth hawlio Budd-dal Analluogrwydd - 'Gwaith a Ganiateir'

Os ydych yn cael Budd-dal Analluogrwydd, efallai y byddwch yn gallu gwneud rhai mathau o waith - o fewn terfynau. Gelwir hyn yn Waith a Ganiateir. Os byddwch yn ennill arian a chithau'n cael Budd-dal Analluogrwydd, gallai hyn effeithio ar y budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm yr ydych yn eu derbyn megis Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai neu Fudd-dal y Dreth Gyngor.

Sut i hawlio

Gallwch hawlio Budd-dal Analluogrwydd ar-lein neu gael ffurflen hawlio drwy wneud un o'r canlynol:

  • cysylltu â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol
  • llwytho'r ffurflen hawlio oddi ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • ffonio'r ganolfan gyswllt

Mae'r ganolfan gyswllt ar agor rhwng 8 am a 6 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rhif ffôn: 0800 055 6688
Ffôn testun:  0800 023 4888

Beth i'w wneud os bydd eich amgylchiadau'n newid

Mae'n bwysig i chi gysylltu â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol os bydd eich amgylchiadau'n newid - er enghraifft:

  • os byddwch yn dechrau gweithio
  • os byddwch yn mynd i'r ysbyty neu'n gadael yr ysbyty
  • os byddwch yn mynd i gartref gofal neu'n gadael cartref gofal
  • os bydd eich cymar neu'ch partner sifil yn mynd i'r ysbyty (os ydych yn cael arian ychwanegol amdano/i)
  • os byddwch yn mynd dramor yn barhaol neu dros dro (efallai y bydd gennych hawl i gael rhyw fath o fudd-dal analluogrwydd dramor)

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.

Sut i apelio

Os gwrthodir Budd-dal Analluogrwydd i chi neu os oes gennych gwestiynau am eich taliad, gallwch ofyn i'r swyddfa a fu'n delio gyda'ch hawliad edrych eto ar eu penderfyniad. Os ydych chi'n dal i fod yn anhapus am y canlyniad, gallwch apelio.

Additional links

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU