Telir Lwfans Byw i'r Anabl ar wahanol gyfraddau yn dibynnu ar sut mae'r anabledd yn effeithio arnoch. Gallwch gael pecyn hawlio mewn sawl ffordd. Gallwch hefyd hawlio ar-lein.
Mae dwy ran i'r Lwfans Byw i'r Anabl - yr elfen ofal a'r elfen symudedd. Efallai mai dim ond un elfen a gewch - neu efallai y bydd modd i chi gael y ddwy.
|
Elfen gofal |
Cyfradd wythnosol |
|---|---|
|
Cyfradd uwch |
£70.35 |
|
Cyfradd canol |
£47.10 |
|
Cyfradd is |
£18.65 |
|
Elfen symudedd |
Cyfradd wythnosol |
|---|---|
|
Cyfradd uwch |
£49.10 |
|
Cyfradd is |
£18.65 |
Bydd eich amgylchiadau unigol yn effeithio ar y swm a gewch. Mae'r pecyn hawlio'n rhoi rhai enghreifftiau o wahanol lefelau o anghenion gofal a symudedd.
Hawliwch yn syth – os na wnewch chi, efallai y byddwch chi'n colli'r budd-dal.
Gallwch hawlio ar-lein neu gael pecyn hawlio drwy:
Ceir dwy ffurflen – un os ydych chi'n hawlio ar gyfer rhywun 16 oed neu hŷn ac un arall os ydych chi'n hawlio ar gyfer rhywun o dan 16.
Ym mis Ebrill 2007 cyflwynwyd ffurflen newydd ar gyfer hawlio Lwfans Byw i'r Anabl (oedolion). Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu'r fersiwn ar-lein – fe fydd ar gael mor fuan â phosib.
Yn y cyfamser, mae'n dal yn bosib i chi hawlio ar-lein neu fe allwch lwytho'r ffurflen hawlio newydd oddi ar y dudalen hon.
I wneud cais am Lwfans Byw i'r Anabl ar-lein, defnyddiwch y ddolen isod a dilyn y cyfarwyddiadau ar y sgrin.
Gwasanaeth rhadffôn cyfrinachol yw hwn i bobl anabl a gofalwyr. Gallwch ffonio'r Llinell Ymholiadau a gofyn iddynt anfon pecyn hawlio atoch. Gallant anfon y pecyn hawlio atoch mewn fformat gwahanol os oes angen – er enghraifft, mewn Braille.
Gallant hefyd drefnu i rywun eich helpu i lenwi'r ffurflen os oes angen. Cofiwch, efallai y bydd y person ar ochr arall y ffôn yn gorfod trefnu i rywun eich ffonio'n ôl.
Rhif ffôn: 0800 88 22 00
Ffôn testun: 0800 24 33 55
Gallwch hefyd ddefnyddio gwasanaeth Typetalk RNID.
Mae'r Llinell Ymholiadau Budd-daliadau ar agor rhwng 8.30 am a 6.30 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9.00 am a 1.00 pm ar ddydd Sadwrn.
Os byddwch yn gofyn am ffurflen gan y Llinell Ymholiadau Budd-daliadau, bydd dyddiad eich cais yn cael ei drin fel eich dyddiad hawlio, sef o pryd y gall y Lwfans Byw i'r Anabl gael ei dalu, ar yr amod bod y ffurflen y byddwch yn ei derbyn yn cael ei dychwelyd o fewn chwe wythnos i'r dyddiad hwnnw. Os byddwch yn oedi gyda hawlio'r lwfans, efallai y byddwch yn colli arian.
Ni fydd eich manylion personol gan y person ar ochr arall y ffôn ond bydd yn gallu rhoi cyngor cyffredinol i chi. Ni ddylid cymryd y cyngor hwn fel penderfyniad am eich hawliad.
Cysylltu â'ch swyddfa Canolfan Gwaith neu swyddfa nawdd cymdeithasol leol
Os byddwch yn gofyn am ffurflen gan eich Canolfan Gwaith yn lleol neu'r swyddfa nawdd cymdeithasol leol, bydd dyddiad eich cais am y ffurflen yn cael ei drin fel eich dyddiad hawlio, sef o pryd y gall y Lwfans Byw i'r Anabl gael ei dalu, dim ond bod y ffurflen y byddwch yn ei derbyn yn cael ei dychwelyd o fewn chwe wythnos i'r dyddiad hwnnw. Os byddwch yn oedi gyda hawlio'r lwfans, efallai y byddwch yn colli arian.
Gallwch hefyd lwytho ffurflen i'w hargraffu oddi ar y we a'i llenwi â beiro. Mae nodiadau'n dod gyda phob ffurflen a fydd yn eich helpu i'w llenwi ac yn dweud wrthych at bwy i'w hanfon. Yn y naill achos neu'r llall, dyddiad yr hawliad fydd y dyddiad pan dderbynnir y ffurflen gan eich swyddfa leol.
Gallwch lenwi ffurflen hawlio ar eich cyfrifiadur. Awgrymwn eich bod yn cadw'r ffurflen ar eich cyfrifiadur cyn ei llenwi: y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw clicio botwm de'r llygoden ar y ddolen isod a dewis yr opsiwn 'Cadw'r targed dan yr enw' ('Save Target As'). Allwch chi ddim cadw'r ffurflen unwaith i chi ei hagor mewn porydd rhyngrwyd.
Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen, gallwch ei hargraffu a'i llofnodi. Sylwch nad yw'r ffurflenni ar-y-sgrîn ar gael yng Ngogledd Iwerddon.
Problemau technegol gyda ffurflen hawlio
Os byddwch yn cael problemau technegol, er enghraifft, llwytho'r ffurflen, llywio o gwmpas y ffurflen ac argraffu copi caled - cysylltwch â'r ddesg gymorth eWasanaeth:
Rhif ffôn: 0845 601 80 40
Ffôn testun: 0845 601 80 39
E-bost: eservicehelpdesk@dwp.gsi.gov.uk
Mae'r ddesg gymorth eWasanaeth ar agor rhwng 8.00 am a 9.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 8.00 am a 4.00 pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul. Codir y gyfradd leol am bob galwad.
Unwaith i chi wneud eich hawliad, gallwch gael cyngor am y Lwfans Byw i'r Anabl gan linell gymorth Lwfans Byw i'r Anabl a ddylai allu cael gafael ar eich cofnodion.
Rhif ffôn: 08457 123 456
Ffôn testun: 08457 22 44 33
Mae'r llinellau ar agor rhwng 7.30 am a 6.30 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
E-bost: DCPU.Customer-Services@dwp.gsi.gov.uk
Gallwch hefyd ddefnyddio gwasanaeth Typetalk RNID.
Fel arfer bydd yn cymryd oddeutu 40 diwrnod gwaith i ddelio gyda hawliad newydd, oni wneir yr hawliad o dan y rheolau arbennig, ac os felly, bydd yn cael sylw'n llawer cynt.
Os bydd eich hawliad am Lwfans Byw i'r Anabl yn llwyddiannus, efallai y bydd rhagor o arian yn cael ei dalu gyda'r canlynol:
Os oes rhywun yn cael Lwfans Gofalwr am ddarparu gofal i chi, efallai na fyddwch yn cael swm ychwanegol am anabledd difrifol gyda'r budd-daliadau a'r credydau hyn.
Am ragor o wybodaeth, dylech gysylltu â'r swyddfa sy'n delio gyda'ch hawliad am y budd-dal neu'r credyd dan sylw, neu gysylltu â'r llinell gymorth Lwfans Byw i'r Anabl.
Mae'r wybodaeth hon a chyngor am y Lwfans Gofalwr i'w cael mewn taflen y gellir ei llwytho oddi ar y we drwy'r ddolen isod. Gallwch ei hargraffu a'i rhoi i'ch gofalwr, os oes gennych ofalwr.
Os byddwch chi'n meddwl bod penderfyniad am eich budd-dal yn anghywir, gofynnwch i'r swyddfa a wnaeth y penderfyniad ei esbonio. Gallwch ofyn am gael ailystyried y penderfyniad, ac os ydych chi'n dal i fod yn anhapus, gan amlaf, fe allwch apelio yn erbyn y penderfyniad.
Os oes gennych unrhyw sylwadau am y ffordd y cafodd eich hawliad am fudd-dal ei drin a/neu'r gwasanaeth a gawsoch, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr.