Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Lwfans Byw i’r Anabl – pwy sy’n gymwys

Efallai y bydd modd i chi gael y Lwfans Byw i'r Anabl os ydych chi dan 65 oed a'ch bod wedi gorfod cael cymorth gyda gofal personol neu wedi cael anawsterau cerdded oherwydd anabledd corfforol neu feddyliol am dri mis a'ch bod yn debygol o fod angen y cymorth hwn neu gael yr anawsterau hyn am o leiaf chwe mis arall.

Os ydych eisoes yn cael Lwfans Byw i'r Anabl pan gyrhaeddwch 65 oed, gall barhau os oes gennych anghenion gofal a/neu symudedd o hyd.

Os oes gennych anghenion gofal

I gael elfen ofal y Lwfans Byw i'r Anabl, rhaid i'ch anabledd fod yn ddigon difrifol fel bo angen y canlynol arnoch:

  • cymorth gyda phethau megis ymolchi, gwisgo, bwyta, mynd i'r toiled, neu gyfathrebu eich anghenion, neu
  • goruchwyliaeth er mwyn eich atal rhag rhoi chi eich hun ac eraill mewn perygl sylweddol, neu
  • rhywun gyda chi pan fyddwch ar ddialysis, neu
  • ddim yn gallu paratoi a choginio pryd bwyd ar eich cyfer eich hun (petai'r cynhwysion gennych) os ydych chi dros 16 oed

Mae tair cyfradd i'r elfen ofal yn dibynnu ar sut mae'ch anabledd yn effeithio arnoch:

  • y gyfradd isaf, os oes angen cymorth neu oruchwyliaeth arnoch am ran o'r diwrnod neu os nad ydych yn gallu paratoi pryd bwyd
  • y gyfradd ganol, os oes angen cymorth neu oruchwyliaeth arnoch yn aml yn ystod y dydd, neu yn ystod y nos, neu rywun gyda chi pan fyddwch ar ddialysis
  • y gyfradd uchaf, os oes angen cymorth neu oruchwyliaeth yn aml arnoch gydol y dydd a'r nos

Gallwch gael Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer eich anghenion gofal, hyd yn oed pan nad oes rhywun yn rhoi'r gofal yr ydych ei angen i chi, hyd yn oed os ydych yn byw ar eich pen eich hun.

Os oes gennych anghenion symudedd

I gael elfen symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl, rhaid i'ch anabledd fod yn ddigon difrifol i chi fod â'r anawsterau cerdded canlynol, hyd yn oed pan fyddwch yn gwisgo neu'n defnyddio cymorth neu gyfarpar yr ydych yn ei ddefnyddio fel arfer:

  • nid ydych yn gallu cerdded neu rydych yn cael trafferth mawr i gerdded o gwbl, neu nid oes gennych draed na choesau, neu
  • asesir eich bod yn 100% anabl oherwydd nad ydych yn gweld a ddim yn llai na 80% anabl oherwydd byddardod a bod arnoch angen rhywun gyda chi pan fyddwch yn mynd o'r tŷ, neu
  • os oes gennych nam meddyliol difrifol gyda phroblemau ymddygiad difrifol ac yn gymwys ar gyfer y gyfradd uchaf o'r elfen ofal, neu
  • gallai'r ymdrech i gerdded fygwth eich bywyd neu effeithio'n ddifrifol ar eich iechyd, neu
  • mae angen arweiniad a/neu oruchwyliaeth arnoch gan berson arall pan fyddwch yn mynd o gwmpas mewn mannau sy'n anghyfarwydd i chi

Mae dwy gyfradd i'r elfen symudedd yn dibynnu ar sut mae'ch anabledd yn effeithio arnoch:

  • y gyfradd is, os oes angen arweiniad a goruchwyliaeth arnoch y tu allan i'ch cartref
  • y gyfradd uwch, os oes gennych unrhyw rai o'r anawsterau cerdded eraill, mwy difrifol

Dim ond i'r elfen ofal neu i'r elfen symudedd y bydd gan rai pobl hawl iddi, bydd gan eraill hawl i'r ddwy.

Os ydych yn hawlio am blentyn anabl neu blentyn gwael

Mae'n rhaid bod angen llawer mwy o gymorth neu oruchwyliaeth ar eich plentyn nag ar blant eraill o'r un oed.

Gallwch hawlio am anghenion gofal cyn i blentyn gyrraedd tri mis oed, ond ni chaiff budd-dal ei dalu nes i'r plentyn gyrraedd tri mis oed oni chaiff ei dalu dan 'reolau arbennig' (gweler isod).

Gallwch hawlio am anghenion symudedd pan fydd eich plentyn:

  • yn dair oed, os nad yw eich plentyn yn gallu cerdded, neu os yw'n cael trafferth mawr i gerdded
  • yn dair oed, os asesir bod eich plentyn yn 100% anabl gan nad yw'n gweld a ddim yn llai na 80% anabl oherwydd byddardod
  • yn dair oed, os oes gan eich plentyn nam meddyliol difrifol gyda phroblemau ymddygiad difrifol ac yn gymwys ar gyfer y gyfradd uchaf o'r elfen ofal
  • yn bump oed, os oes angen arweiniad neu oruchwyliaeth ar eich plentyn wrth gerdded y tu allan i'w gartref

Rheolau arbennig - os ydych yn angheuol wael

Os oes gennych glefyd cynyddol ac na ddisgwylir yn rhesymol i chi fyw'n hwy na chwe mis arall, mae 'na reolau arbennig i'ch helpu i gael y Lwfans Byw i'r Anabl yn gynt ac yn rhwydd. Gallwch gael cyfradd uchaf yr elfen ofal yn syth heb orfod aros nes bod angen help arnoch ers tri mis.

Gallwch wneud cais ar ran rhywun dan y rheolau arbennig heb iddynt hwy wybod neu heb eu caniatâd. Os byddant yn bodloni'r amodau perthnasol, byddant yn cael llythyr yn dweud y cânt y Lwfans Byw i'r Anabl, ond ni fydd yn sôn am y rheolau arbennig.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am ofalu am rywun sy'n derfynol wael yn yr adran 'gofalu am rywun'.

Eich preswyliaeth

Mae rhai amodau o ran eich preswyliaeth a'ch presenoldeb y bydd angen i chi eu bodloni i gael Lwfans Byw i’r Anabl.

Dan rai amodau penodol, gellir talu Lwfans Byw i’r Anabl i bobl sy'n gadael Prydain Fawr i fyw mewn gwlad arall yn Ardal Economaidd Ewrop (AEE) neu'r Swistir.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU