Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Taliadau uniongyrchol - trefnu eich gofal a'ch gwasanaethau eich hun

Taliadau gan y cyngor lleol yw taliadau uniongyrchol. Mae'r rhain ar gyfer pobl yr aseswyd bod angen cymorth y gwasanaethau cymdeithasol arnynt, a'u bod yn dymuno trefnu a phrynu'u gwasanaethau gofal a chymorth eu hunain yn hytrach na'u derbyn yn uniongyrchol gan y cyngor lleol.

Rhaid i berson allu rhoi ei ganiatâd i dderbyn taliadau uniongyrchol a gallu'u rheoli hyd yn oed os oes angen help arnynt i wneud hyn o ddydd i ddydd.

Pwy sy'n gymwys?

Os ydych eisoes yn derbyn gwasanaethau cymdeithasol

Rhaid i'ch cyngor lleol gynnig dewis i chi i gael taliadau uniongyrchol yn lle'r gwasanaethau rydych yn eu derbyn ar hyn o bryd. Dan rai amgylchiadau prin, fydd y dewis hwn ddim ar gael i chi. Cewch wybod am y rhain gan eich cyngor lleol.

Os nad ydych yn derbyn gwasanaethau cymdeithasol

Er mwyn cael taliadau uniongyrchol, rhaid i chi gysylltu â'ch cyngor lleol i ofyn iddynt asesu'ch anghenion. Mae gwasanaethau cymdeithasol (ac felly taliadau uniongyrchol) ar gael i chi fel arfer os ydych chi:

  • yn anabl ac yn 16 oed neu'n hŷn
  • yn rhiant neu'n ofalwr 16 oed neu hŷn (gan gynnwys pobl sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn anabl)
  • yn berson hŷn

Os gwrthodwyd gwasanaethau cymdeithasol i chi

Os yw'ch cyngor lleol wedi penderfynu nad oes angen gwasanaethau gofal cymdeithasol arnoch, ni fydd yn cynnig taliadau uniongyrchol i chi. Os ydych o'r farn fod eich anghenion neu eich amgylchiadau wedi newid erbyn hyn, gofynnwch i'ch cyngor lleol eich asesu o'r newydd.

Faint fyddwch chi'n ei gael?

Bydd y swm a dderbyniwch yn dibynnu ar asesiad eich cyngor lleol o'ch anghenion.

Sut mae'n cael ei dalu

Gwneir y taliadau uniongyrchol yn syth i'ch cyfrif mewn banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post neu Gynilion Cenedlaethol.

Os bydd angen i'r sawl sy'n gofalu amdanoch gasglu'ch arian, neu os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, gellir gwneud y taliad trwy anfon siec y gellir ei chyfnewid am arian yn Swyddfa'r Post.

Sut i wneud cais am daliadau uniongyrchol yn lleol

Os ydych eisoes yn derbyn gwasanaethau, gofynnwch i'ch awdurdod lleol am daliadau uniongyrchol.

Os ydych yn gwneud cais am wasanaethau am y tro cyntaf, dylai eich gweithiwr cymdeithasol drafod yr opsiwn taliadau uniongyrchol gyda chi pan fyddant yn asesu'ch anghenion gofal.

Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth a/neu wneud cais ar-lein.

Beth allwch chi ei wneud gyda thaliadau uniongyrchol

Gallwch ddefnyddio'r arian i drefnu'r gwasanaethau (gan gynnwys cyfarpar) a fydd yn diwallu'ch anghenion yn unol ag asesiad y cyngor lleol ohonynt.

Fel egwyddor gyffredinol, dylai cynghorau adael i chi ddewis y ffordd orau o ddiwallu'ch anghenion fel y'u haseswyd gyhyd â'u bod yn fodlon bod y gefnogaeth a/neu'r trefniadau y cytunwyd arnynt, yn cael eu darparu.

Ar gyfer beth na allwch chi ddefnyddio taliadau uniongyrchol

Allwch chi ddim defnyddio taliadau uniongyrchol ar gyfer y canlynol:

  • talu am lety preswyl parhaol - ond efallai y gallwch ddefnyddio taliadau uniongyrchol ar gyfer cyfnodau byr achlysurol mewn llety preswyl, os yw'ch cyngor lleol yn cytuno mai dyna sydd ei angen arnoch
  • derbyn gwasanaeth gan eich cymar neu'ch partner sifil, perthnasau agos neu unrhyw un sy'n byw yn yr un cartref â chi, onid yw'r person hwnnw wedi'i recriwtio'n benodol gennych i fyw gyda chi ac i weithio i chi (ac eithrio dan amgylchiadau eithriadol, y gall y cyngor gytuno arnynt gyda chi)

Cadw cofnodion

Os ydych yn derbyn taliadau uniongyrchol, rhaid i chi roi cyfrif am yr arian a wariwch. Bydd eich cyngor lleol yn dweud wrthych pa gofnodion i'w cadw a pha wybodaeth y bydd disgwyl i chi ei darparu: megis taflenni amser wedi'u llofnodi gan gynorthwywyr personol, neu dderbynebau am wasanaethau gan asiantaethau.

Rhaid i'r cyngor fod yn fodlon fod yr anghenion y mae'n rhoi taliadau uniongyrchol i chi ar eu cyfer yn cael eu diwallu. Dylent hwy fod yn dweud wrthych sut y byddant yn gwneud hyn. Gall hyn olygu ymweliad â'ch cartref.

Gofalwyr a thaliadau uniongyrchol

Os ydych yn rhiant neu'n ofalwr 16 oed neu'n hŷn (gan gynnwys pobl sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn anabl), mae'n bosib y byddwch yn gymwys i dderbyn taliadau uniongyrchol.

Ond allwch chi ddim defnyddio taliadau uniongyrchol i brynu gwasanaethau ar gyfer y person yr ydych yn gofalu amdano. Dim ond ar gyfer sicrhau'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi, fel gofalwr, yn unol â'r asesiad, y gellir gwario'r taliadau uniongyrchol.

Yr effaith ar fudd-daliadau eraill

Nid yw taliadau uniongyrchol yn cael eu hystyried yn incwm ac felly nid ydynt yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau eraill yr ydych yn eu derbyn.

Beth i'w wneud os yw'ch amgylchiadau'n newid

Os bydd eich anghenion gwasanaethau cymdeithasol yn newid

Os bydd eich anghenion yn newid (er gwell neu er gwaeth, neu yn yr hirdymor neu dymor byr), cysylltwch â'ch cyngor lleol cyn gynted â phosibl er mwyn iddynt allu ailasesu'r lefel taliadau.

Er enghraifft, os na fydd angen i chi wario'r swm llawn oherwydd bod eich cyflwr yn gwella dros dro, neu os byddwch yn cael eich anfon i'r ysbyty, efallai y bydd rhaid iddynt newid eich taliadau.

Os na fyddwch am barhau gyda thaliadau uniongyrchol

Os penderfynwch nad ydych am barhau, bydd y cyngor lleol yn trefnu'r gwasanaethau. Os yw'r cyngor yn penderfynu na allwch ymdopi gyda thaliadau uniongyrchol, efallai y bydd yn atal y taliadau uniongyrchol ac yn darparu gwasanaethau yn eu lle.

Additional links

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU