Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Lwfans Gweini – eich amgylchiadau

Mae rhai amodau penodol ynglŷn â'ch preswyliaeth a'ch presenoldeb y mae angen i chi eu bodloni i gael Lwfans Gweini. Rhaid i chi ddweud wrth y swyddfa sy'n delio gyda'ch taliadau os bydd eich amgylchiadau'n newid.

Newid yn eich amgylchiadau

Gall newidiadau i'ch amgylchiadau effeithio ar eich cymhwysedd i gael Lwfans Gweini, neu'r swm yr ydych yn ei gael. Mae hyn yn cynnwys newid yn eich anghenion gofal, os byddwch yn mynd i gartref gofal neu i un o ysbytai'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, neu os byddwch yn mynd dramor i fyw neu ar ymweliad.

Mae'n bwysig cysylltu â'r swyddfa sy'n delio gyda'ch taliadau.

Eich anabledd neu eich cyflwr meddygol

Mae newid mewn amgylchiadau yn golygu pan fydd arnoch chi, neu rywun yr ydych yn hawlio drosto/i, angen llai o gymorth gyda gofal personol neu oruchwyliaeth, oherwydd bod eich cyflwr wedi gwella neu am fod gennych gynorthwyydd i'ch helpu.

Os bydd eich cyflwr chi, neu gyflwr y sawl yr ydych yn gofalu amdano, yn gwaethygu a bod angen mwy o gymorth arnoch, gallai hyn olygu y gallwch chi, neu'r person anabl, gael mwy o arian.

Ysbytai'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG)

Os ydych chi, neu rywun yr ydych yn hawlio drosto/i, yn mynd i ysbyty'r GIG neu'n gadael yr ysbyty, mae hyn yn cael ei ystyried yn newid mewn amgylchiadau.

Cartrefi gofal

Os byddwch yn aros mewn cartref gofal yn barhaol neu dros dro, gall hynny effeithio ar eich Lwfans Gweini.

Mynd i fyw dramor neu i ymweld

Os ydych yn bwriadu mynd i fyw dramor yn barhaol, ni allwch gael Lwfans Gweini fel arfer.

Os byddwch yn symud i wlad arall yn Ardal Economaidd Ewrop neu i'r Swistir a'ch bod eisoes yn cael Lwfans Gweini, fe allwch barhau i'w gael dan rai amgylchiadau.

Os ydych yn ymweld â gwlad dramor dros dro, efallai y gallwch barhau i gael Lwfans Gweini:

  • os nad yw eich absenoldeb o Brydain Fawr yn para mwy na 26 wythnos (mae hyn yn cynnwys mynd ar wyliau)
  • os ydych yn mynd dramor er mwyn cael triniaeth feddygol am gyflwr a ddechreuodd cyn i chi adael Prydain Fawr

Byw ym Mhrydain Fawr

I gael y Lwfans Gweini, rhaid eich bod yn gyffredinol yn preswylio'n arferol ym Mhrydain Fawr, neu'n cael eich trin fel petaech yn byw yma, a rhaid i chi fodloni rhai amodau eraill o ran preswyliaeth a phresenoldeb.

Yn gyffredinol, mae'n ofynnol:

  • eich bod fel arfer yn preswylio ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr neu'r Alban)
  • eich bod ym Mhrydain Fawr adeg gwneud eich hawliad
  • rhaid eich bod ym Mhrydain Fawr, Gogledd Iwerddon, Ynys Manaw, Jersey neu Guernsey am o leiaf 26 wythnos yn y 52 wythnos diwethaf (nid yw hyn yn berthnasol i bobl sy'n cael eu talu dan y rheolau arbennig).
  • nad ydych yn gaeth i reoliadau mewnfudo

Nid yw rheoliadau mewnfudo'n eich rhwystro rhag cael y Lwfans Gweini os ydych naill ai:

  • yn aelod o deulu dinesydd un o wledydd Ardal Economaidd Ewrop
  • yn gweithio ym Mhrydain Fawr fel dinesydd gwlad â chytundeb trin yn gyfartal gyda'r Undeb Ewropeaidd - sef Twrci, Moroco, Algeria, Tunisia a San Marino
  • yn byw gydag un o'r gweithwyr hyn fel aelod o'u teulu
  • yn unigolyn sydd wedi cael caniatâd i ddod i'r DU neu i aros yn y DU gan fod rhywun wedi cytuno i fod yn gyfrifol am eich cynhaliaeth ac am eich costau llety

Gellir eich trin fel rhywun sy'n byw ym Mhrydain Fawr:

  • os ydych yn aelod o Luoedd Arfog EM sy'n gwasanaethu dramor neu'n aelod o'u teulu
  • os ydych yn forwr neu'n awyrennwr sifil sy'n gweithio dramor
  • os ydych wedi bod yn gweithio ar sector y Deyrnas Unedig o'r silff gyfandirol - ar rig olew, er enghraifft

Os ydych chi'n cael Lwfans Gweini a'ch bod yn symud i wlad arall yn Ardal Economaidd Ewrop neu i'r Swistir, cewch barhau i'w gael dan rai amgylchiadau.

Os ydych chi eisoes yn byw mewn gwlad arall yn Ardal Economaidd Ewrop neu yn y Swistir, efallai y bydd modd i chi hawlio Lwfans Gweini dan rai amgylchiadau.

Additional links

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU