Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Lwfans Gweini - pwy all ei hawlio

Efallai y cewch chi Lwfans Gweini os ydych chi'n 65 oed neu'n hŷn ac wedi bod angen cymorth gyda gofal personol neu wedi bod angen goruchwylio oherwydd anabledd corfforol neu feddyliol am o leiaf chwe mis.

Eich anghenion gofal

I gael Lwfans Gweini, rhaid i'ch anabledd fod yn ddigon difrifol fel bod angen unrhyw un o’r canlynol arnoch:

  • help gyda phethau megis ymolchi (a mynd i mewn ac allan o'r baddon neu gawod), gwisgo, bwyta, mynd i'r toiled a'i ddefnyddio, neu gyfathrebu eich anghenion
  • goruchwyliaeth i osgoi rhoi eich hun neu bobl eraill mewn perygl sylweddol, er enghraifft, bod angen rhywun i gadw llygad ar eich cyflwr meddygol neu'ch deiet, neu oherwydd nid ydych yn gallu rheolu y ffordd yr ydych yn ymddwyn
  • rhywun gyda chi pan fyddwch ar ddialysis

Mae dwy gyfradd i'r Lwfans Gweini, gan ddibynu ar sut mae'ch anabledd yn effeithio arnoch chi:

  • y gyfradd is, os oes angen cymorth neu oruchwyliaeth arnoch yn aml drwy gydol y dydd yn unig, help gyda gofal personol neu rywun i edrych drostoch chi yn ystod y nos yn unig, neu rywun gyda chi pan fyddwch ar ddialysis
  • y gyfradd uwch, os oes angen help gyda gofal personol, neu rywun i’ch oruchwylio neu edrych drostoch chi yn aml drwy gydol y dydd ac hefyd yn ystod y nos

Gallwch gael Lwfans Gweini hyd yn oed pan nad oes rhywun yn rhoi'r gofal sydd ei angen arnoch i chi - hyd yn oed os ydych yn byw ar eich pen eich hun.

Rheolau arbennig - os ydych yn angheuol wael

Os oes gennych salwch cynyddol ac nad oes disgwyl rhesymol i chi fyw am fwy na chwe mis arall, mae yna reolau arbennig i'ch helpu i gael Lwfans Gweini yn gyflymach ac yn rhwyddach. Gallwch gael y gyfradd uwch ar unwaith heb aros nes eich bod wedi bod angen help am chwe mis.

Gallwch hawlio ar gyfer rhywun dan y rheolau arbennig heb iddynt wybod neu heb eu caniatâd. Os ydynt yn bodloni'r amodau perthnasol, byddant yn cael llythyr yn dweud y byddant yn cael Lwfans Gweini, ond heb sôn am y rheolau arbennig.

Gellwch gael gwybod mwy am ofalu am rywun sy'n angheuol wael yn yr adran 'gofalu am rywun'.

Eich preswyliaeth

Mae rhai amodau o ran bod ym Mhrydain Fawr, ac amodau eraill am eich preswyliaeth a'ch presenoldeb, y bydd angen i chi eu bodloni i gael Lwfans Gweini.

Additional links

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU