Budd-dal di-dreth yw’r Lwfans Gweini, a elwir weithiau'n AA, ar gyfer pobl sy’n 65 neu’n hŷn y mae angen cymorth arnynt gyda gofal personol oherwydd eu bod yn anabl yn gorfforol neu'n feddyliol.
Canllaw yn unig yw'r wybodaeth yn yr adran hon. Gall y swyddfa sy'n delio gyda'ch hawliad ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am hawlio a chael y Lwfans Gweini.
Mae'n bosib y cewch chi Lwfans Gweini dan yr amgylchiadau canlynol:
Os ydych o dan 65 oed, efallai y gallwch dderbyn Lwfans Byw i'r Anabl.
Fel arfer nid effeithir ar y Lwfans Gweini gan unrhyw gynilion neu incwm sydd gennych.
Os oes gennych glefyd cynyddol ac na ddisgwylir i chi fyw'n hwy na chwe mis arall, mae 'na reolau arbennig ar gyfer hawlio i sicrhau eich bod yn cael eich budd-dal yn gynt ac yn rhwydd.
Fel arfer ni fydd angen archwiliad meddygol arnoch wrth hawlio'r Lwfans Gweini. Os gofynnir i chi gael un, gallwch gael gwybod mwy drwy ddilyn y ddolen isod.
Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar sut mae'n anabledd yn effeithio arnoch.
Mae dwy gyfradd i'r Lwfans Gweini.
| Lwfans Gweini | Cyfradd wythnosol |
|---|---|
| Cyfradd uwch | £67.00 |
| Cyfradd is | £44.85 |
Hawliwch yn syth – os na wnewch chi, efallai y byddwch chi'n colli'r budd-dal.
Gallwch gael pecyn hawlio drwy:
Gallwch hefyd hawlio ar-lein.
Mae'r Lwfans Gweini'n cael ei dalu'n uniongyrchol i unrhyw gyfrif o'ch dewis chi sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol ar gyfer budd-daliadau. Gall hwn fod yn fanc, yn gymdeithas adeiladu neu'n ddarparwr cyfrif arall.
Efallai y gallwch drefnu i rywun arall gasglu'r Lwfans Gweini ar eich rhan. I gael cymorth ar gyfer hyn, cysylltwch â'ch banc, eich cymdeithas adeiladu neu'r darparwr cyfrif arall.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gael eich talu drwy ffyrdd eraill, cysylltwch â'r swyddfa sy'n delio gyda'ch hawliad - ceir manylion yn yr adran 'Cyfraddau a sut i hawlio'.
Os ydych yn dechrau cael Lwfans Gweini, efallai y bydd yn cynyddu swm y budd-daliadau neu'r credydau eraill y mae gennych hawl iddynt. Efallai y cewch swm ychwanegol am anabledd difrifol gyda Budd-dal Tai, Budd-dal Treth Cyngor neu Gredyd Pensiwn.
Fel arfer mae'r Lwfans Gweini'n cael ei anwybyddu fel incwm wrth gyfrifo'r credyd a'r budd-daliadau hyn sy'n gysylltiedig ag incwm.
Gall newidiadau i'ch amgylchiadau effeithio ar faint o Lwfans Gweini gewch chi, neu a fyddwch yn ei gael ai peidio.
I gael y Lwfans Gweini, fel arfer rhaid i chi hefyd fodloni rhai amodau o ran eich preswyliaeth a phresenoldeb.
Gellir llwytho ffilm fer am Lwfans Gweini - sy'n cael ei chyflwyno yn Iaith Arwyddion Prydain, ac sy'n cynnwys sylwebaeth ac is-deitlau - oddi ar wefan Directgov. Mae'r wybodaeth ar gael ar DVD hefyd, a gallwch ofyn am gael copi drwy'r post.