Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Hawliau cyflogaeth a’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd

Mae gan weithwyr anabl yr un hawliau cyflogaeth cyffredinol â gweithwyr eraill, ond mae 'na rai darpariaethau arbennig eraill ar eu cyfer o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd.

Dan y ddeddf, mae'n anghyfreithlon i gyflogwyr wahaniaethu yn erbyn pobl anabl am reswm sy'n gysylltiedig â'u hanabledd, ymhob agwedd ar gyflogaeth, oni ellir cyfiawnhau hynny. Mae'r Ddeddf yn cwmpasu:

  • ffurflenni cais
  • trefniadau cyfweliad
  • profion medrusrwydd
  • cynigion am swydd
  • telerau cyflogaeth
  • cyfleoedd hyfforddi, trosglwyddo a chael dyrchafiad
  • buddion cysylltiedig â gwaith megis mynediad at gyfleusterau hamdden neu luniaeth
  • diswyddo neu ddileu swydd


Addasiadau rhesymol yn y gweithle

Dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, mae gan eich cyflogwr ddyletswydd i ystyried gwneud 'addasiadau rhesymol' i sicrhau na fyddwch yn cael eich rhoi dan anfantais fawr gan y trefniadau cyflogaeth neu gan unrhyw nodwedd ffisegol yn y gweithle.

Nodir enghreifftiau o'r mathau o addasiadau y dylai eich cyflogwr eu hystyried, mewn ymgynghoriad â chi, yn y Ddeddf, ac maent yn cynnwys:

  • dyrannu rhywfaint o'ch gwaith i rywun arall
  • eich trosglwyddo i swydd arall neu fan gwaith arall
  • gwneud addasiadau i'r adeiladau lle rydych yn gweithio
  • bod yn hyblyg am eich oriau - rhoi oriau gweithio craidd gwahanol i chi a gadael i chi fynd o'r swyddfa ar gyfer triniaeth, asesiadau neu ailsefydlu
  • darparu hyfforddiant neu ailhyfforddiant os na allwch chi wneud eich gwaith presennol bellach
  • darparu cyfarpar wedi'i addasu
  • gwneud cyfarwyddiadau a llawlyfrau yn fwy hwylus
  • darparu darllenydd neu ddehonglydd

Pethau i'w hystyried yn y gwaith

Gallwch chwarae rhan ragweithiol wrth drafod y trefniadau hyn gyda'ch cyflogwr. Hefyd, efallai yr hoffech annog eich cyflogwr i siarad â rhywun gydag arbenigedd mewn darparu cymorth cysylltiedig-â-gwaith i bobl anabl, megis cynghorydd iechyd galwedigaethol.

Ymhlith y materion y mae angen i'r ddau ohonoch eu hystyried y mae:

  • pa mor effeithiol fydd addasiad?
  • a fydd yn golygu bod eich anabledd yn peri ychydig llai o anfantais neu a fydd yn lleihau'r anfantais yn sylweddol?
  • ydy'r addasiad yn ymarferol?
  • a fydd yr addasiad yn ymyrryd llawer ar y gwaith?
  • a fydd yn helpu pobl eraill yn y gwaith?
  • ydy'r gost yn ddychrynllyd?

Efallai y byddwch am sicrhau bod eich cyflogwr yn gwybod am y rhaglen Mynediad at Waith gan y Ganolfan Byd Gwaith. Trwy'r rhaglen hon, gall cyflogwyr gael cyngor am addasiadau priodol yn ogystal â rhywfaint o gymorth ariannol o bosibl tuag at gost yr addasiadau.

Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ffynhonnell dda o gyngor os teimlwch i chi ddioddef gwahaniaethu yn eich erbyn yn y gwaith neu fan arall. Gall helpu hefyd os teimlwch i chi ddioddef camwahaniaethu yn eich erbyn ac am gyflwyno hawliad mewn Tribiwnlys Cyflogaeth.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU