Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

CAM AT WAITH - cymorth i ddod o hyd i swydd a'i chadw

Mae rhaglen gyflogaeth CAM AT WAITH yn darparu cymorth i bobl anabl sy'n wynebu rhwystrau cymhleth wrth geisio cael swydd a'i chadw. Mae hefyd yn cynnig cymorth ymarferol i gyflogwyr.

Gall CAM AT WAITH fod o fudd i chi os oes gennych anabledd a'ch bod yn dymuno cael swydd lle gallwch fynd ati:

  • i feithrin a gwella eich sgiliau gwaith
  • i gael cyfle i ddatblygu drwy gyfrwng hyfforddiant a chymorth
  • i gael y math iawn o gymorth ac anogaeth pan fydd ei angen arnoch

Cysylltwch â'ch Canolfan Waith a gofyn am gael siarad gydag Ymgynghorydd Cyflogaeth i Bobl Anabl. Bydd eich Ymgynghorydd yn gallu dweud wrthych a ydych yn gymwys ar gyfer y rhaglen ai peidio a gall eich helpu i benderfynu a yw'n addas i chi.

Addas ar gyfer eich anghenion chi

Gall CAM AT WAITH ddarparu cymorth i chi a'ch cyflogwr:

  • ymhob math o swydd bron
  • a fydd yn cael ei deilwra i'ch anghenion chi

Mae CAM AT WAITH yn rhoi cyfle ichi weithio mewn amrywiaeth o wahanol swyddi drwy amrediad eang o sefydliadau, o siopau bach ar y stryd fawr i gwmnïau cenedlaethol. Byddwch yn cael yr un cyflog â chydweithwyr nad ydynt yn anabl sy'n gwneud yr un gwaith neu waith tebyg.

Os byddwch yn cychwyn ar swydd newydd, bydd darparwr CAM AT WAITH yn eich cyflwyno chi i'ch rheolwr a'ch cydweithwyr yn y gwaith ac yn cadw mewn cysylltiad i sicrhau bod popeth yn mynd rhagddo'n hwylus.

Byddwch yn gallu cytuno ar gynllun datblygu gyda'ch darparwr CAM AT WAITH a'ch cyflogwr. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn derbyn y cymorth a'r hyfforddiant angenrheidiol ar gyfer dysgu sut mae gwneud eich swydd, a datblygu yn y swydd honno.

Additional links

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU