Mae'r Cynllun Cyflwyno Gwaith ar gael trwy'r Ganolfan Byd Gwaith. Gall eich helpu os oes gennych anabledd a allai effeithio ar y math o waith y gallwch ei wneud. Mae'r Cynllun Cyflwyno Gwaith yn talu grant wythnosol i'ch cyflogwr am y chwech wythnos gyntaf y cewch eich cyflogi er mwyn helpu i dalu eich cyflog a chostau cyflogaeth eraill.
I fod yn gymwys dan reolau'r Cynllun Cyflwyno Gwaith, gall y swydd fod yn amser llawn neu'n rhan amser, ond rhaid i'r swydd fod yn un lle disgwylir iddi bara am o leiaf 6 mis gan gynnwys cyfnod y cynllun.
Ni ellir defnyddio'r cynllun ar gyfer swyddi mewn adrannau ac asiantaethau'r llywodraeth. Ni ellir ei ddefnyddio chwaith ar gyfer swyddi Isafswm Gwaith a Ganiateir, Workstep na swydd y Fargen Newydd lle telir cymhorthdal y Fargen Newydd, er y gall pobl ar raglen y Fargen Newydd i Bobl Anabl ddefnyddio'r Cynllun Cyflwyno Gwaith.
Ni all pobl sy'n cymryd rhan yn Dysgu yn y Gwaith i Bobl Ifanc yn Lloegr, Training for Work a Skillseekers yn yr Alban, neu Meithrin Medrau yng Nghymru gymryd rhan. Ni ellir ei ddefnyddio o fewn Ardaloedd Llwybrau at Waith a arweinir gan ddarparwyr gan gwsmeriaid Llwybrau at Waith.
Mae'r Cynllun Cyflwyno Gwaith yn talu grant wythnosol i'ch cyflogwr am chwech wythnos gyntaf eich cyflogaeth. Dan amgylchiadau eithriadol, ac ar ôl cytundeb yr Ymgynghorydd Cyflogaeth i Bobl Anabl, gellir ymestyn hwn i 13 wythnos. Bydd eich cyflogwr yn talu'r gyfradd arferol i chi am y gwaith.
Os ydych ar fin cychwyn swydd newydd a bod gennych chi neu eich cyflogwr bryderon go iawn am eich gallu i ymdopi oherwydd eich anabledd, cysylltwch â'ch Ymgynghorydd Cyflogaeth i Bobl Anabl. Gallwch drafod a fyddai'r Cynllun Cyflwyno Gwaith ar gael yn eich amgylchiadau. Gall eich Canolfan Gwaith leol roi manylion yr Ymgynghorydd Cyflogaeth i Bobl Anabl agosaf atoch.