Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Lwfansau Myfyrwyr Anabl

Mae'r Lwfansau Myfyrwyr Anabl yn darparu cymorth ariannol ychwanegol os oes gennych anabledd neu anhawster dysgu penodol megis dyslecsia. Cânt eu talu ar ben y pecyn cyllid myfyrwyr sylfaenol ac nid oes yn rhaid eu had-dalu.

Ynghylch Lwfansau Myfyrwyr Anabl

Grantiau yw'r Lwfansau Myfyrwyr Anabl sy'n helpu i dalu'r costau astudio ychwanegol sy'n wynebu myfyrwyr fel canlyniad uniongyrchol o anabledd neu anhawster dysgu penodol. Maent wedi eu cynllunio i helpu myfyrwyr anabl i astudio'n gyfartal â myfyrwyr eraill.

Gall myfyrwyr amser llawn, rhan-amser a myfyrwyr ôl-radd gwneud cais am Lwfansau Myfyrwyr Anabl.

Ni fydd y swm y gallwch ei gael yn dibynnu ar incwm eich cartref. Nid oes rhaid i chi dalu hwn yn ôl. Caiff Lwfansau Myfyrwyr Anabl eu talu ar ben y pecyn cyllid myfyrwyr sylfaenol.

Beth ydynt am

Gellir Lwfansau Myfyrwyr Anabl helpu gydag:

  • offer arbenigol a fydd eu hangen arnoch i astudio - er enghraifft, meddalwedd cyfrifiadurol
  • cynorthwy-ydd anfeddygol, megis rhywun i gymryd nodiadau neu i ddarllen
  • costau teithio ychwanegol y bydd yn rhaid i chi eu talu oherwydd eich anabledd
  •  costau eraill - er enghraifft, tapiau neu bapur Braille

Cymhwysedd

Gallwch wneud cais os ydych yn astudio:

  • cwrs amser llawn sy'n para o leiaf blwyddyn (gan gynnwys cwrs dysgu o bell)
  • cwrs rhan-amser sy'n para blwyddyn ac nad yw'n cymryd mwy na dwywaith yn hirach i'w gwblhau na chwrs amser llawn cyfatebol (gan gynnwys cwrs mewn Prifysgol Agored neu unrhyw gwrs dysgu o bell arall)

Gweld os ydych yn gymwys ar gyfer cyllid myfyriwr

I wneud cais ar gymorth ariannol drwy Lwfansau Myfyrwyr Anabl, mae’n rhaid i chi a’ch cwrs fod yn gymwys. Mae’n werth i chi wirio hyn cyn gwneud cais. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn yr adran addysg a dysgu o’r wefan hon.

Cael prawf o’ch anabledd neu anhawsterau dysgu penodol

I wneud cais, bydd rhaid i chi ddangos tystiolaeth o’ch anabledd i’ch awdurdod lleol (neu’r Brifysgol Agored).

Os ydych ag anabledd corfforol, neu â chyflwr iechyd-meddyliol, bydd rhaid i chi ddarparu tystiolaeth feddygol o hyn – fel llythyr gan rhywun proffesiynol meddygol priodol.

Os oes gennych anhawster dysgu penodol fel dyslecsia, mae’n rhaid i chi ddarparu tystiolaeth mewn ffurf ‘asesiad diagnostig’ gan seicolegydd neu athro/athrawes gymwysedig arbenigol addas. Os ydych wedi cael asesiad diagnostig yn y gorffennol, mae’n bosib bydd angen iddo gael ei ddiweddaru.

Ni all eich awdurdod lleol cyrraedd y gost o unrhyw brofion i sefydlu eich cymhwyster am Lwfansau Myfyrwyr Anabl. Os oes angen prawf ond nid ydych yn gallu fforddio talu amdano, mae’n bosib y gallwch gael cymorth gyda’r gost drwy’r Gronfa Mynediad i Ddysgu.

Pwy sydd ddim yn gymwys

Ni fyddwch yn gymwys am y Lwfansau Myfyrwyr Anabl os ydych yn derbyn bwrsari gan y GIG. Mae bwrsarïau’n debyg i rantiau ac, fel arfer, bydd y rhain yn gysylltiedig â phroffesiwn neu â chymhwyster penodol.

Ni fyddwch hefyd yn gymwys am Lwfansau Myfyrwyr Anabl o’ch awdurdod lleol os ydych yn fyfyriwr ôl-radd ac yn derbyn:

  • grant neu fwrsari cyngor ymchwil
  • bwrsari Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol gan y GIG sy’n cynnwys cefnogaeth cyfwerth
  • bwrsari neu grant gan gan eich coleg neu'ch prifysgol sy’n cynnwys cefnogaeth cyfwerth

Dylech gysylltu â darparwr eich bwrsari neu grant am gyngor am unrhyw gefnogaeth ychwanegol mae’n bosib y byddwch a hawli iddo oherwydd anabledd.

Faint fyddwch chi'n ei gael

Bydd hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau penodol, ond mae uchafsymiau ar gyfer y lwfansau gwahanol.

Dilynwch y ddolen isod am fanylion, gan gynnwys beth ydy’r lwfansau mwyaf.

Sut i wneud cais

Dilynwch y ddolen isod am fanylion y broses o wneud cais ar gyfer myfyrwyr amser llawn, rhan-amser a myfyrwyr ôl-radd. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth ar bwy i gysylltu gyda os caiff eich cais ei droi i lawr ac yr ydych am apelio.

Mwy o wybodaeth

Gallwch gael mwy o wybodaeth am Lwfansau Myfyrwyr Anabl o'r llyfryn, 'Bridging the Gap'. Gallwch lwytho copi o'r safle hwn, neu ofyn i'ch awdurdod lleol anfon un atoch chi.

Mathau eraill o gymorth ariannol i fyfyrwyr anabl

Mae Lwfansau Myfyrwyr Anabl yn cael eu talu ar ben y pecyn safonol o gymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr.

Os ydych yn gwneud cwrs addysg uwch, gallwch gael gwybodaeth ar fenthyciadau myfyrwyr, grantiau a bwrsarïau gan ‘Cyllid myfyrwyr: faint allech chi ei gael’ neu, os wnaeth eich cwrs ddechrau cyn 2006, ‘Cyllid myfyrwyr: wedi cychwyn cyn Medi 2006?’.

Os ydych yn fyfyriwr ôl-radd, dilynwch y ddolen i ‘Ariannu eich cwrs ôl-radd’.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU