Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cymorth i Ddioddefwyr yn yr Alban

Os ydych chi'n byw yn yr Alban ac wedi dioddef o ganlyniad i drosedd, fe allwch chi gysylltu â Chymorth i Ddioddefwyr yn yr Alban. Fe allwch chi wneud hyn hyd yn oed os nad ydych chi wedi rhoi gwybod i’r heddlu am y trosedd. Gall Cymorth i Ddioddefwyr yn yr Alban eich cyfeirio at gyrff eraill a allai fod o gymorth i chi hefyd.

Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn yr Alban yn darparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i'r rhai y mae rhywun wedi troseddu yn eu herbyn trwy ei wasanaethau i ddioddefwyr yn lleol. Gellir darparu'r gefnogaeth yn y ffordd sy'n addas i chi - trwy ymweliadau cartref, apwyntiadau mewn swyddfa neu dros y ffôn.

Os bydd rhaid i chi fynd at y Siryf neu'r Uchel Lys - naill ai fel tyst neu ddioddefwr - mae Cymorth i Ddioddefwyr yn yr Alban yn darparu Gwasanaeth i Dystion hefyd. Yn ogystal â chefnogaeth emosiynol, mae'r gwasanaeth yn darparu arweiniad cyffredinol am beth i'w ddisgwyl yn y llys.

Os ydych wedi dioddef trosedd yn eich erbyn, dylech fynd i'ch gorsaf heddlu leol i roi gwybod iddynt. Mae eu rhif yn y llyfr ffôn. Gyda'ch caniatâd, bydd yr heddlu'n otomatig yn rhoi eich enw i'r gwasanaeth i ddioddefwyr yn lleol a bydd aelod o'r staff neu wirfoddolwr yn cysylltu â chi.

Bydd yr holl gyswllt gyda gwasanaethau Cymorth i Ddioddefwyr yn yr Alban yn gyfrinachol.

Cysylltiadau

Gallwch gysylltu â Chymorth i Ddioddefwyr yn yr Alban hyd yn oed os nad ydych yn hysbysu'r heddlu o'r trosedd. Cewch fwy o wybodaeth am Gymorth i Ddioddefwyr yn yr Alban ar eu gwefan.

Ceir rhifau gwasanaethau i ddioddefwyr yn lleol yn y llyfr ffôn dan Victim Support. Neu gallwch ffonio llinell gymorth Cymorth i Ddioddefwyr yn yr Alban ar 0845 603 9213. Mae'r llinell ar agor rhwng 9.00 am a 4.30 pm, o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 9.00 am a 4.00 am ar ddydd Gwener.

Gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth i Dystion naill ai trwy'r gwasanaeth i ddioddefwyr lleol neu drwy gysylltu â'r Siryf neu'r Uchel Lys lle mae'r achos yr ydych yn gysylltiedig ag ef yn cael ei gynnal.

Cewch ragor o wybodaeth am system Cyfiawnder Troseddol yr Alban ar wefan Dioddefwyr Troseddau yn yr Alban.

Allweddumynediad llywodraeth y DU