Os ydych chi wedi dioddef o ganlyniad i drosedd, mae Cymorth i Ddioddefwyr yn fudiad gwirfoddol sy’n cael ei noddi gan y llywodraeth, yn darparu cyngor cyfrinachol, cymorth ymarferol a gwybodaeth yn rhad ac am ddim. Os yw’r heddlu yn dal y person a gyhuddir o’r drosedd ac os yw'r achos yn mynd i'r llys, fe allwch chi gael help gan wasanaeth tystion Cymorth i Ddioddefwyr.
Os ydych wedi dioddef trosedd yn eich erbyn ac am siarad â rhywun yn gyfrinachol, gallwch ffonio'r llinell gymorth genedlaethol ar 0845 30 30 900. Mae'r llinell ar agor rhwng 9.00 am a 9.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9.00 am a 7.00 pm ar benwythnosau, a rhwng 9.00 am a 5.00 pm ar wyliau cyhoeddus.
Gallwch gysylltu â'ch cynllun Cymorth i Ddioddefwyr lleol hefyd. Mae manylion cyswllt eich cynllun Cymorth i Ddioddefwyr lleol ar gael ar wefan Cymorth i Ddioddefwyr.