Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Deiliaid tai a defnyddio grym yn erbyn tresmaswyr

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron (GEG) a Phrif Gwnstabliaid wedi cynhyrchu crynodeb o'r hyn y gall pobl ei wneud os byddant yn wynebu tresmaswr, a'r gefnogaeth a gynigir gan y gyfraith pan fydd deiliaid tai yn amddiffyn eu hunain. Fe ddaw'r canlynol o'r datganiad hwnnw.

Beth ydy 'grym rhesymol' ac a ydy'r gyfraith yn eich amddiffyn?

Gall unrhyw un ddefnyddio 'grym rhesymol' i amddiffyn eu hunain neu eraill, i arestio rhywun neu i atal trosedd. Nid oes disgwyl i chi wneud penderfyniadau manwl am lefel y grym y byddwch yn ei ddefnyddio yng ngwres y funud. Cyn belled mai dim ond yr hyn sy'n reddfol ac yn wirioneddol angenrheidiol i chi ar y pryd yr ydych yn ei wneud, dyna'r dystiolaeth fwyaf cadarn eich bod wedi gweithredu'n gyfreithiol ac er mwyn amddiffyn eich hun. Mae hyn yn wir hefyd os ydych chi'n defnyddio rhywbeth o fewn eich cyrraedd fel arf.

Fel rheol gyffredinol, y mwyaf eithafol yw'r amgylchiadau a'r ofn a deimlir, y mwyaf yw'r grym y gallwch, yn ôl y gyfraith, ei ddefnyddio i amddiffyn eich hun.

Beth os ydych chi'n erlid y tresmaswyr wrth iddynt ffoi?

Mae'r sefyllfa hon yn wahanol gan nad ydych yn amddiffyn eich hun mwyach, ac felly efallai na fyddai'n rhesymol defnyddio cymaint o rym. Fodd bynnag, cewch ddefnyddio grym rhesymol i adfer eich eiddo ac i wneud arestiad dinesydd (citizen's arrest). Dylech ystyried eich diogelwch eich hun ac, er enghraifft, a ydy'r heddlu wedi cael eu galw ai peidio. Byddai tacl rygbi neu un ergyd, fwy na thebyg, yn rhesymol. Ni fyddai gweithredu'n faleisus ac er mwyn dial, gyda'r bwriad o gosbi drwy anafu neu ladd yn rhesymol.

A fydd yr heddlu'n credu'r tresmaswr yn hytrach na chi?

Bydd yr heddlu'n pwyso a mesur yr holl ffeithiau wrth ymchwilio i ddigwyddiad. Mae hyn yn cynnwys y ffaith mai'r tresmaswr a barodd i'r sefyllfa godi yn y lle cyntaf. Mae gan yr heddlu ddyletswydd i ymchwilio i ddigwyddiadau'n ymwneud â marwolaeth neu anaf. Nid yw pethau bob amser yn ddu a gwyn - er enghraifft, weithiau bydd pobl yn cymryd arnynt fod rhywun wedi dwyn o'u tŷ er mwyn cuddio troseddau eraill, fel ffrwgwd rhwng gwerthwyr cyffuriau.

A oes rhaid i chi aros i rywun ymosod arnoch?

Nid oes rhaid i chi aros nes yr ymosodir arnoch cyn amddiffyn eich hun os ydych chi yn eich cartref eich hun ac yn pryderu am eich diogelwch eich hun neu ddiogelwch eraill. Dan yr amgylchiadau hynny, yn ôl y gyfraith, nid yw'n ofynnol i chi aros nes yr ymosodir arnoch cyn i chi ddefnyddio grym i amddiffyn eich hun.

Beth os yw'r tresmaswr yn marw?

Os ydych chi wedi amddiffyn eich hun, ac wedi gwneud hynny'n rhesymol, fel y disgrifiwyd uchod, ac mae'r tresmaswr yn marw, ystyrir eich bod wedi gweithredu'n gyfreithlon. Yn wir, bu sawl achos o'r fath lle nad yw deiliad y tŷ wedi cael ei erlyn.

Fodd bynnag, os ydych chi, er enghraifft:

  • wedi taro'r person nes ei fod yn anymwybodol, ac yna wedi penderfynu dal ati i'w niweidio, neu ei ladd, er mwyn ei gosbi

neu

  • wedi cael gwybod am fwriad rhywun i dresmasu, ac wedi gosod trap i'w niweidio neu ei ladd yn hytrach na rhoi gwybod i'r heddlu am y mater

yna gallech fod wedi gweithredu gyda grym gormodol ac wedi bod yn rhy barod i wneud hynny, a gellid eich erlyn.

Sut byddai'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron yn delio â'r ymchwiliad ac yn eich trin chi?

Wrth ystyried yr achosion hyn, bydd y Prif Gwnstabliaid a Chyfarwyddwr yr Erlyniadau Cyhoeddus (Pennaeth GEG) yn penderfynu bod yn rhaid ymchwilio iddynt a'u hadolygu mor fuan ag y bo modd, a chyda cymaint o gydymdeimlad â phosib. Mewn rhai achosion, er enghraifft lle mae'r ffeithiau'n glir iawn, neu lle mae'r anafiadau sy'n gysylltiedig â'r achos yn llai difrifol, bydd yr ymchwiliad yn dod i gasgliad yn gyflym iawn, heb wir angen arestio. Mewn achosion sy'n fwy cymhleth, lle mae rhywun yn marw neu'n cael anafiadau difrifol, rhaid cynnal ymholiadau manylach. Efallai y bydd angen i'r heddlu gynnal archwiliad fforensig a/neu gael eich safbwyntiau chi ynghylch yr hyn a ddigwyddodd.

I wneud yn siŵr y delir ag achosion o'r fath mor gyflym, a chyda cymaint o gydymdeimlad, â phosib, bydd yr heddlu a GEG yn cymryd mesurau arbennig:

  • bydd ymchwilydd profiadol yn goruchwylio'r achos

a

  • os yw'n mynd mor bell â GEG yn ystyried y dystiolaeth, bydd yr achos yn cael blaenoriaeth i sicrhau bod uwch dwrnai yn gwneud penderfyniad cyflym

Mae'n ffaith mai ychydig iawn o ddeiliaid tai sydd wedi cael eu herlyn erioed am ddefnyddio grym yn erbyn tresmaswyr.

Rhagor o wybodaeth

Gellir cael gafael ar 'Deiliaid tai a defnyddio grym yn erbyn tresmaswyr' ar ffurf taflen ac mewn ffurfiau gwahanol - cysyllter â:

Cangen Gyfathrebu GEG / CPS Communications Branch

50 Ludgate Hill

Llundain CC4M 7EX

Rhif ffôn: 020 7796 8442

Ffacs: 020 7796 8030

Allweddumynediad llywodraeth y DU