Gelwir y rheini sy'n 17 neu'n iau ac sydd wedi troseddu yn 'droseddwyr ifanc'. Mae ystod eang o ddedfrydau ar gael i'r system cyfiawnder ieuenctid ar gyfer troseddwyr ifanc, a gellir dedfrydu troseddwr ifanc i gyfnod yn y carchar os yw pob dewis arall yn methu.
Nid ystyrir bod plant dan ddeg oed wedi cyrraedd oed lle gellir eu dal yn gyfrifol am eu troseddau. Oherwydd eu bod dan yr oed 'cyfrifoldeb troseddol', ni ellir eu cyhuddo o unrhyw drosedd.
Gellir cyhuddo plant 10 -14 oed o droseddu os gellir profi iddynt fod yn ymwybodol bod yr hyn yr oeddent yn ei wneud yn ddifrifol iawn.
Ar ôl cyrraedd 14 oed, ystyrir bod pobl ifanc yn gwbl gyfrifol am eu gweithredoedd eu hunain - yn yr un modd ag oedolyn. Fodd bynnag, ceir rhai gwahaniaethau yn y math o ddedfrydau y bydd troseddwyr ifanc yn eu cael.
Pan fydd pobl ifanc yn mynd i drwbl yn y lle cyntaf am gyflawni troseddau bach, neu am ymddygiad gwrthgymdeithasol, gellir delio â hwy oddi allan i system y llys. Ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol, gall yr heddlu a'r awdurdod lleol ddefnyddio gorchmynion cyn mynd i'r llys, megis Gorchmynion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ASBOs) neu Orchmynion Diogelwch Plant. Ar gyfer troseddau cyntaf bach, gall yr heddlu ddefnyddio Ceryddu a Rhybuddion Terfynol.
Rhan o'r llys ynadon yw'r Llys Ieuenctid ac mae'n bosib y byddant yn cael eu lleoli yn yr un adeilad. Mae'n delio â bron bob achos sy'n ymwneud â phobl ifanc dan 18 oed. Gweinyddir y rhan hon o'r llys ynadon gan ynadon sydd ar y panel ieuenctid a barnwyr rhanbarth. Mae'r grym ganddynt i roi Gorchymyn Cadw dan Glo a Hyfforddi o hyd at 24 mis, yn ogystal ag ystod o ddedfrydau yn y gymuned.
Mae llysoedd ieuenctid yn llai ffurfiol na llysoedd ynadon (sy'n delio ag achosion sy'n ymwneud â phobl dros 18 oed), ac yn ymwneud mwy â'r bobl ifanc sy'n ymddangos yn y llys a'u teuluoedd. Mae llysoedd ieuenctid, yn eu hanfod, yn lleoedd preifat ac nid ydynt yn agored i'r cyhoedd. Fodd bynnag, caiff dioddefwr (neu ddioddefwyr) y trosedd fod yn bresennol yng ngwrandawiadau'r llys os ydynt yn dymuno, cyn belled â'u bod yn gwneud cais i'r llys am gael gwneud hyn.
Mewn achosion difrifol iawn, bydd yn rhaid i unigolyn ifanc sydd wedi'i gyhuddo o drosedd ymddangos yn Llys y Goron, yn hytrach nag mewn Llys Ieuenctid. Mae Llys y Goron yn debygol o ddelio ag achosion fel y rhai a ganlyn:
Efallai y bydd yn rhaid i rai troseddwyr ifanc fynychu Canolfan Ymbresenoli (er enghraifft, os byddant yn torri amod gorchymyn ymddygiad gwrthgymdeithasol). Gall troseddwyr ifanc (yn fechgyn ac yn ferched) rhwng 10 a 25 oed gael eu gyrru i'r canolfannau yn hytrach na derbyn dedfrydau cymunedol eraill neu gael eu cadw'n gaeth. Bwriad y canolfannau yw lleihau lefelau troseddu ymhlith troseddwyr risg isel drwy fynd at wraidd y troseddu.
Mae gan y canolfannau raglenni gweithgareddau yn canolbwyntio ar weithio mewn lleoliad grŵp strwythuredig a disgybledig, gyda sesiynau wedi'u cynllunio i feithrin hunanddisgyblaeth a chyfrifoldeb personol, ac i wella sgiliau sylfaenol megis rhifedd, llythrennedd a rheoli arian.