Nid oes gan y Deyrnas Unedig un system farnwrol unedig - mae gan Gymru a Lloegr un system, mae gan yr Alban un arall ac mae gan Ogledd Iwerddon un arall eto.
Mae cyfraith droseddol yn ymwneud â sefydlu a chadw trefn gymdeithasol a gwarchod y gymuned. Nod 'rheolau' cyfraith droseddol yw annog pawb i fyw bywyd priodol a chefnogi eu hawl i fyw'n ddiogel. Gellir erlyn pobl sy'n torri'r rheolau hyn. Os dyfernir hwy'n euog, gallant wedyn wynebu dirwy neu'u hanfon i garchar, neu'r ddau.
Mae cyfraith droseddol yn tybio bod pob unigolyn yn ddieuog nes y'i dyfernir yn euog. Mae'n ofynnol bod y dystiolaeth a gyflwynir yn profi euogrwydd y person ‘y tu hwnt i amheuaeth resymol’.
Mae cyfraith sifil yn ymwneud yn bennaf ag anghydfodau rhwng unigolion neu gyrff corfforaethol. Rhaid i achosion gael eu profi yn ôl yr hyn sy'n debygol (mwy na 50 y cant o debygolrwydd fod y diffynnydd yn atebol) yn hytrach na'r safon 'y tu hwnt i amheuaeth resymol' sy'n berthnasol mewn achosion troseddol.
Mewn achosion troseddol a sifil ill dau, mae'r llysoedd yn gwneud penderfyniadau ar sail dadleuon gwrthwynebol yn hytrach na dull ymchwiliol. Golyga hyn fod yr erlyniad a'r amddiffyniad yn profi hygrededd a dibynadwyedd y dystiolaeth y bydd eu gwrthwynebydd yn ei chyflwyno i'r llys. Mae'r barnwr yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar y dystiolaeth a gyflwynir.
Prif ffynhonnell y gyfraith yw statudau sy'n cael eu pasio gan Senedd San Steffan neu Senedd yr Alban, ond ceir hefyd ddyletswydd gyfreithiol i gydymffurfio â chyfraith y Gymuned Ewropeaidd. Rhaid i lysoedd y DU ddefnyddio cyfraith y Gymuned Ewropeaidd mewn achosion lle mae gwrthdaro rhwng y ddau. Gall statud roi pŵer i weinidog, awdurdod lleol neu gorff gweithredol arall lunio deddfwriaeth ddirprwyedig.
Mae cyfraith y Gymuned Ewropeaidd, sy'n berthnasol yn y DU, yn deillio o gytundebau'r Gymuned Ewropeaidd, deddfwriaeth y Gymuned a fabwysiadwyd yn eu sgil, a phenderfyniadau Llys Cyfiawnder Ewrop. Gan y llys hwnnw y mae'r awdurdod pennaf i benderfynu ar bwyntiau cyfreithiol y GE.
Ymgorfforwyd y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yng nghyfreithiau'r DU dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998. Mae'n cynnwys yr hawl i gael treial teg, rhyddid meddwl a mynegiant, a pharch at fywyd teuluol a phreifat. Rhaid i bob awdurdod cyhoeddus, gan gynnwys y llysoedd, gydymffurfio â'r hawliau hyn. Fodd bynnag, os ydynt yn gwrthdaro â Deddf Seneddol, gall y llysoedd wneud datganiad anghymarusrwydd a rhaid i'r Senedd wedyn benderfynu beth i'w wneud.
Mae system gyfreithiol Gogledd Iwerddon yn weddol debyg i system Cymru a Lloegr. Yr Arglwydd Ganghellor sy'n gyfrifol am weinyddiaeth y llys drwy Wasanaeth Llys Gogledd Iwerddon. Swyddfa Gogledd Iwerddon (dan yr Ysgrifennydd Gwladol) sy'n delio â pholisi a deddfwriaeth sy'n ymwneud â chyfraith droseddol, yr heddlu a'r system gosbi. Mae gan yr Arglwydd Ganghellor hefyd gyfrifoldeb cyffredinol dros help, cyngor a chymorth cyfreithiol.
Dilynwch y dolenni isod i gael mwy o wybodaeth am system farnwrol Gogledd Iwerddon.
Mae Adran Cyfiawnder Gweithrediaeth yr Alban, o dan y Gweinidog dros Gyfiawnder, yn gyfrifol yn yr Alban am gyfraith a chyfiawnder troseddol a sifil, gwasanaethau gwaith cymdeithasol, yr heddlu, carchardai, gweinyddiaeth y llysoedd, cymorth cyfreithiol, ac am gydlynu gyda'r proffesiwn cyfreithiol.
Mae Senedd yr Alban yn llunio cyfreithiau ar faterion sydd wedi'u datganoli iddi. Yn y meysydd hyn, gall newid neu ddiddymu Deddfau cyfredol Senedd y DU a phasio deddfwriaeth newydd ar ei phen ei hun ar gyfer yr Alban. Mae’n gyfrifol am y canlynol: y rhan fwyaf o faterion iechyd; addysg a hyfforddiant; llywodraeth leol, gwasanaethau cymdeithasol, tai a chynllunio; mewnfuddsoddi a hyrwyddo masnach; datblygiad economaidd a thwristiaeth; y rhan fwyaf o agweddau ar y gyfraith a materion cartref, gan gynnwys carchardai, y system erlyn a'r llysoedd; yr heddlu a gwasanaethau tân; y rhwydwaith ffyrdd, polisïau bysiau, porthladdoedd a harbwrs; amaeth, yr amgylchedd, pysgodfeydd, coedwigaeth a bwyd; treftadaeth naturiol ac adeiledig; chwaraeon, diwylliant, y celfyddydau ac iaith; ac ystadegau, cofnodion a chofrestri cyhoeddus.
I gael mwy o wybodaeth am y system gyfiawnder yn yr Alban, dilynwch y ddolen isod.