Ar rai adegau yn eich bywyd, efallai y dewch i gysylltiad â'r system gyfiawnder. Mae'r manylion yma'n egluro eich hawliau a'ch cyfrifoldebau, a lle gallwch gael rhagor o gymorth a gwybodaeth.
Sut gallwch chi helpu
Bydd y wybodaeth a roddwch yn eich datganiad i'r heddlu yn cael ei defnyddio i geisio dod o hyd i'r bobl sydd wedi cyflawni'r trosedd. Peidiwch â phoeni os nad ydych yn clywed dim gan yr heddlu am sbel - gall gymryd amser i lunio achos a chasglu tystiolaeth.
Rhoi tystiolaeth mewn llys
Os caiff rhywun ei gyhuddo o'r trosedd, mae'n bosib y gofynnir i chi roi tystiolaeth yn y llys. Os ydych chi'n teimlo'n nerfus, os oes gennych gwestiynau neu os hoffech fynd o amgylch y llys cyn i'r treial gychwyn, gellir cael cymorth a chyngor gan y Gwasanaeth Tystion, sef gwasanaeth sy'n cael ei redeg gan Cymorth i Ddioddefwyr. Mae gan wefan y System Cyfiawnder Troseddol wybodaeth am beth i'w ddisgwyl, ac mae'n cynnwys taith ryngweithiol o amgylch llys. Ceir rhagor o wybodaeth am fod yn dyst yn adran Troseddu, Cyfiawnder a'r Gyfraith Directgov, a gallwch hefyd wylio fideo sy'n dangos i chi beth i'w ddisgwyl yn y llys. Defnyddiwch y dolenni isod i gael mwy o fanylion.
Ar ôl i chi roi gwybod i'r heddlu am y trosedd, mae gennych hawl i gael y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sut mae'r achos yn mynd rhagddo, yn ogystal â'r hawl i gael gwybod am arestiadau ac achosion llys. Dylech hefyd gael:
Mae canllaw a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref, 'Cod Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr Trosedd', yn egluro'r hyn y gall dioddefwyr ei ddisgwyl gan y system gyfiawnder troseddol. Gallwch lwytho'r canllaw oddi ar y we drwy ddefnyddio'r ddolen isod.
Ceir rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr trosedd yn adran Troseddu, Cyfiawnder a'r Gyfraith Directgov. Defnyddiwch y ddolen briodol isod i gael mwy o wybodaeth.
Mae'n bosib y'ch gwysir i wasanaethu ar reithgor os ydych chi rhwng 18 a 70 oed. Mae'n wasanaeth y disgwylir i bob aelod o'r cyhoedd ei gyflawni. Fel arfer, defnyddir rheithgorau mewn treialon ar gyfer troseddau difrifol megis llofruddiaeth, ymosodiad, dwyn neu dwyll, yr ymdrinnir â hwy yn Llys y Goron. Bydd rheithgorau'n ystyried y dystiolaeth ac yna'n penderfynu ar ddedfryd 'euog' neu 'di-euog'.
Ceir mwy o wybodaeth ynghylch beth mae gwasanaethu ar reithgor yn ei olygu yn adran Troseddu, Cyfiawnder a'r Gyfraith Directgov. Gallwch hefyd wylio fideo ar-lein o'r enw, 'Eich Rôl fel Rheithiwr'. Defnyddiwch y dolenni isod i gael mwy o fanylion.
Os cewch eich cyhuddo o drosedd yng Nghymru neu yn Lloegr, efallai y bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yn penderfynu eich erlyn. Gall unrhyw un sy'n cael ei arestio a'i gadw yn y ddalfa, neu sy'n ymddangos gerbron llys, wneud cais am gymorth a chyngor di-dâl. Yng Nghymru a Lloegr rheolir hyn gan y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol a byddwch yn gwneud cais i'r Gwasanaeth Amddiffyn Troseddol. Bwrdd Cymorth Cyfreithiol yr Alban sy'n rheoli cymorth cyfreithiol yn yr Alban. Yng Ngogledd Iwerddon, cyfrifoldeb Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol Gogledd Iwerddon yw cymorth cyfreithiol. Defnyddiwch y ddolen isod i gael mwy o wybodaeth am bob un o'r rhain.
Costau a chyngor cyfreithiol
Mae gennych hawl i dreial teg a dylech bob amser gymryd cyngor cyfreithiol. Ar ddiwedd yr achos, gall barnwr y treial orchymyn i chi dalu rhywfaint neu'r cyfan o gostau eich amddiffyniad yn ôl.
Gellir cael cynrychiolaeth gyfreithiol am ddim os byddwch yn pasio'r prawf Er Budd Cyfiawnder (a elwir weithiau'n brawf teilyngdod) a phrawf modd.
Cyfeirir at yr anghydfodau hynny nad ydynt yn ymwneud â'r heddlu fel materion 'cyfraith sifil' yn hytrach na materion 'cyfraith droseddol'. Mae'r materion mwyaf cyffredin mewn cyfraith sifil yn ymwneud â chyflogaeth, tai, y dreth gyngor, a dyled/credyd, ond ceir nifer o faterion eraill yr ymdrinnir â nhw hefyd.
Os ydych chi'n rhan o anghydfod sifil, bydd ceisio cadw'r mater allan o'r llys yn fanteisiol i bawb, oherwydd gall hyn fod yn ddrud, gall gymryd llawer o amser a gall fod yn anodd yn emosiynol i'r rhai sy'n rhan o'r anghydfod. Argymhellir mai eiriolaeth neu ddulliau amgen o ddatrys anghydfodau, megis cymodi a chyflafareddu, yw'r ffyrdd gorau o ddatrys anghydfodau sifil. Fodd bynnag, os nad ydynt yn gweithio, efallai y byddwch chi neu'r person neu'r parti arall sy'n gysylltiedig yn dymuno mynd â'r mater ymhellach drwy fynd i'r llys.
Mynd i’r llys
Os byddwch yn mynd i'r llys, mae gennych gyfrifoldeb i gydweithredu â'r llys er mwyn cyrraedd y nod o gael canlyniadau sy'n gywir ac yn deg. Mae hyn yn golygu cyflwyno dogfennau a dilyn camau priodol.
Mae dod i benderfyniad ynghylch anghydfod neu setlo'r achos y tu allan i'r llys yn opsiwn hyd at yn union cyn dechrau'r achos llys.
Costau cyfreithiol
Efallai y gallwch gael cynrychiolaeth gyfreithiol am ddim mewn achosion sifil ac achosion cyfraith teulu, yn dibynnu ar amgylchiadau'r achos ac ar yr unigolyn. Gallai'r cymorth ariannol dalu am y costau i gyd neu gyfran o'r gost o fynd â'r achos i'r llys, yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Gall Cyngor Cyfreithiol Cymunedol (gwasanaeth cyfrinachol am ddim y telir amdano gan Gymorth Cyfreithiol) neu dwrnai eich helpu i gael gafael ar y cymorth ariannol a'r cymorth cyfreithiol y gallech fod â'r hawl iddo.
Os nad ydych yn gymwys, efallai y bydd hi'n dal yn bosib i chi gael cyngor cyfreithiol gan dwrnai sy'n gweithio am ffi amodol - a elwir yn gyffredinol yn 'dim ennill, dim ffi'. Mae hyn fel arfer yn golygu mai dim ond os ydych chi'n ennill yr ydych chi'n talu ffioedd y twrneiod a'r arbenigwyr, ac os ydych chi'n colli ni fyddwch yn talu dim.
Dilynwch y dolenni isod i gael gwybod mwy am gyfryngu, neu i gael cyngor gan Cyngor Cyfreithiol Cymunedol.