Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cymorth gyda chostau teithio

Mae'n bosib y gallwch dderbyn cymorth ariannol i ymweld ag aelod o'r teulu yn y carchar. Mae 'na nifer o asiantaethau a all gynnig cymorth.

Os mai chi yw perthynas agos, partner neu unig ymwelydd (oedolyn) y carcharor ac yn derbyn un o'r canlynol, efallai y gallwch dderbyn cymorth gyda chost ymweld trwy Gynllun Cymorth ar gyfer Ymweliadau Carchar y Gwasanaeth Carchardai:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith (seiliedig ar incwm)
  • Credyd Treth Plant (uchafswm incwm £13,895)
  • Credyd Treth Plant gyda Chredyd Treth Gwaith (uchafswm incwm £13,895)
  • Credyd Treth Gwaith gydag elfen anabledd (uchafswm incwm £13,895)
  • yn meddu ar Dystysgrif Iechyd dau neu dri

Rhaid gwneud cais drwy'r post. Mae rheolau ac amodau ynghlwm.

Fel arfer, gellir cael pecynnau gwybodaeth ynghylch cael cymorth ariannol gan:

  • sefydliadau carchar, gan gynnwys Canolfannau Ymwelwyr
  • swyddfeydd yr Asiantaeth Budd-daliadau gan gynnwys Canolfannau Byd gwaith a Chanolfannau Gwaith
  • Uned Cymorth ar gyfer Ymweliadau Carchar (0845 3001423 neu ffôn testun 0845 3040800 – ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, 10.15-11.45 a 14.15-15.45). Mae nodiadau am y cynllun yn Gymraeg, mewn iaith dramor, Braille ac ar dâp sain ar gael hefyd gan yr Uned

Cymorth ariannol arall ar gyfer carcharorion a'u teuluoedd

Allweddumynediad llywodraeth y DU