Os oes aelod o'ch teulu yn y carchar, gall ymweliadau eich helpu i gadw mewn cysylltiad. Gallwch gadw mewn cysylltiad hefyd drwy lythyr a bydd y sawl sydd yn y carchar yn gallu cysylltu â chi dros y ffôn.
Ceir rheolau ynghylch sawl ymweliad y mae carcharor yn ei gael a sut y cynhelir yr ymweliadau.
Os yw'r aelod o'ch teulu wedi'i gael yn euog o drosedd rhaid iddynt anfon Gorchymyn Ymweliad (GY) atoch a bydd rhaid i chi fynd â hwn gyda chi pan fyddwch yn ymweld. Rhaid rhoi enwau a manylion pob ymwelydd ar y gorchymyn ymweliad, gan gynnwys pobl ifanc dan 18 oed a dylai eu henw llawn, eu dyddiad geni, eu cyfeiriad a'u perthynas â'r carcharor gael eu cynnwys. Rhaid trefnu pob ymweliad o flaen llaw ar linell archebu'r carchar
Mae gan garcharorion sydd wedi'u cael yn euog hawl i ddau ymweliad 60 munud bob pedair wythnos o leiaf. Os ydych chi'n byw yn bell o'r carchar, efallai y bydd y carcharor yn gofyn i chi hel ymweliadau er mwyn i chi allu ymweld yn llai aml am gyfnod hwy. Gall carcharorion hefyd wneud cais am gael yr ymweliadau sydd wedi'u hel mewn carchar yn nes at adref.
Dylech wneud yn siŵr bod y dogfennau adnabod cywir gennych wrth ymweld. Fel arfer byddai pasbort, trwydded yrru neu fil nwy yn addas, ond gallwch holi wrth ffonio i drefnu'ch ymweliad. Mae'n bosibl bod pob carchar yn derbyn dogfennau adnabod gwahanol.
Ni chaiff mwy na thri pherson ymweld ar yr un pryd, felly gwnewch yn siŵr nad oes neb arall yn ymweld â'r un person yr un diwrnod â chi. Mae unrhyw un dros ddeg oed yn cyfrif fel un person. Gall plant o dan ddeg fynd yn ychwanegol i'r uchafswm a ganiateir. Rhaid i unrhyw un dan 18 oed fod gydag oedolyn fel arfer. Os yw'r sawl yr ydych yn ymweld ag ef ar remánd neu wedi'i gael yn euog o drosedd sifil, bydd angen i chi holi am y trefniadau ymweld gyda'r carchar.
Os ydych am fynd â phethau i'r sawl yr ydych yn ymweld ag ef, rhaid i chi ofyn ymlaen llaw beth mae'r carchar yn ei ganiatáu. Rhaid rhoi unrhyw beth y byddwch chi'n ei gludo i'r carchar i'r swyddog sy'n gyfrifol am ymweliadau.
Dylai pob ymwelydd fod yn ymwybodol bod smyglo cyffuriau i garchardai yn drosedd difrifol. Gall arwain at gael eich gwahardd o'r carchar am sawl mis, neu efallai y cewch eich arestio.