Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cefnogaeth i deuluoedd carcharorion

Mae 'na nifer o asiantaethau cefnogi ar gael sy'n darparu gwybodaeth ac arweiniad i ffrindiau a theuluoedd carcharorion.

Llinell Gymorth ar gyfer Teuluoedd Carcharorion

Cydlynir y Llinell Gymorth i Deuluoedd Carcharorion (0808 808 2003) gan Action for Prisoners Families. Mae'n darparu gwybodaeth a chefnogaeth i unrhyw un gyda pherthynas neu ffrind yn y carchar yng Nghymru a Lloegr, ac i unrhyw un sy'n gweithio gyda theuluoedd carcharorion.

Gwasanaeth Carchardai EM

I gael rhagor o wybodaeth am holl waith y Gwasanaeth Carchardai ymwelwch â gwefan y Gwasanaeth Carchardai.

SCT (System Cyfiawnder Troseddol) Ar-lein

Mae'r safle hwn yn ffynhonnell wybodaeth ardderchog ar nifer o destunau. Mae'n cynnwys nifer o rithdeithiau: y system llysoedd (sy'n ddefnyddiol iawn i'r rhai sydd ar fin gwneud gwasanaeth rheithgor); dioddefwyr trosedd; a chyngor i'r rhai sy'n dyst i drosedd. Mae hefyd yn cynnwys rhithdaith trwy fywyd person o'r dydd cyntaf yn y carchar i'r diwrnod rhyddhau.

Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai

Gall yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai ddelio gydag ymholiadau ynghylch pob agwedd ar garchariad, yn ogystal â chwynion am driniaeth unigolion yn y carchar (er na all ddelio gydag achosion o euogfarn anghyfiawn).

Nacro (elusen lleihau troseddu)

Mae Nacro'n cynnig llinell gymorth Adsefydlu a Mwy (Resettlement Plus) (020 7840 6464) sy'n darparu gwybodaeth i garcharorion, cyn-droseddwyr, eu teuluoedd a'u ffrindiau.

Parentline Plus

Ar gyfer rhieni a gofalwyr sy'n chwilio am wybodaeth, cymorth a chefnogaeth gyda materion sy'n ymwneud â bywyd teuluol, ffoniwch 0800 800 2222 (neu ffôn testun 0800 783 6783).

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU