Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Y Gwasanaeth Prawf a dedfrydau cymunedol

Pan fydd troseddwr yn cael Gorchymyn Cymunedol gan y llys, neu'n gadael y carchar ar ôl dedfryd 12 mis neu fwy, bydd yn cael ei roi dan oruchwyliaeth y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol (GPC) am gyfnod penodedig.

Pan mae troseddwr yn debygol o gael ei roi ar brawf

Mae troseddwyr yn debygol o gael eu rhoi ar gyfnod prawf:

  • pan fydd barnwr neu ynad yn eu dedfrydu i Orchymyn Cymunedol
  • pan fydd Bwrdd Parôl yn penderfynu y gellir rhyddhau'r troseddwr yn fuan o ddedfryd o garchar
  • pan fydd troseddwr yn cael ei ryddhau'n awtomatig o'r carchar ar ôl bwrw hanner neu dri chwarter ei ddedfryd

Dedfrydau cymunedol

Ni fyddai'n bosib rhoi dedfryd o garchar i bob troseddwr, ac ni fyddid yn dymuno gwneud hynny chwaith. Mewn sefyllfa pan fydd rhywun yn mynd i'r carchar, gall hyn chwalu teuluoedd, atal ailsefydlu a rhoi plant mewn perygl o droseddu ar ôl gweld aelodau o'u teulu'n gwneud hynny. Os nad yw troseddwr yn fygythiad gwirioneddol i'r cyhoedd, ystyrir bod gorchymyn cymunedol yn well dewis yn aml.

Gan gyfuno'r bwriad o newid ymddygiad troseddwyr a'u cosbi, mae dedfrydau cymunedol weithiau'n gorfodi troseddwyr i wneud iawn am eu troseddau hefyd. Dyma enghreifftiau o ddedfrydau cymunedol:

  • gwaith di-dâl gorfodol - fel cael gwared â graffiti, clirio tir diffaith neu weithio er budd elusennau
  • goruchwyliaeth yn y gymuned - sy'n golygu cyfarfod yn rheolaidd â swyddog prawf i helpu i newid agweddau ac ymddygiad pobl
  • cyrffyw - lle mae troseddwr yn gorfod aros yn ei gartref ar amserau penodol (efallai y byddant yn cael tag electronig er mwyn monitro'r cyrffyw)
  • mynd i'r afael â materion fel camddefnyddio cyffuriau neu alcohol, a all arwain at droseddu
  • mynd i'r afael â mathau penodol o ymddygiad troseddol, fel bod yn dreisgar yn y cartref, cyflawni troseddau rhyw neu yfed a gyrru'n fynych

Os yw'r troseddwr yn torri rheolau a gofynion y gorchymyn cymunedol, byddant yn gorfod dychwelyd i'r llys ac yn cael cosb ychwanegol. Mewn rhai achosion, efallai y bydd troseddwyr yn cael eu dedfrydu eto ac yn cael eu hanfon i'r carchar.

Beth mae bod ar brawf yn ei olygu i'r troseddwr

Rhaid i droseddwyr sydd ar brawf gydymffurfio â'r rheolau a'r gofynion a nodir ar eu gorchymyn llys neu'u trwydded ryddhau. Os byddant yn torri'r rheolau hyn, byddant yn wynebu camau disgyblu, gan gynnwys y risg o gael eu hanfon i'r carchar. Er enghraifft, rhaid i droseddwyr fynychu sesiynau goruchwylio cyson gyda'u swyddogion prawf. Dim ond un rhybudd a gânt os nad ydynt yn bresennol; os ydynt yn methu ail sesiwn, byddant yn cael eu hanfon yn ôl i'r llys, ac yn wynebu'r posibilrwydd o gael eu carcharu.

Gall gofynion ychwanegol gynnwys:

  • cyflawni dedfrydau cymunedol yn llwyddiannus
  • cwblhau triniaeth alcohol a chyffuriau
  • aros yn un o hosteli'r gwasanaeth prawf
  • cadw draw o'r ardal lle cyflawnwyd y trosedd

Swyddogaeth y swyddog prawf

Bob blwyddyn, bydd swyddogion prawf yn goruchwylio oddeutu 225,000 o droseddwyr. Eu rôl yw:

  • amddiffyn y cyhoedd drwy helpu i atal y troseddwr rhag cyflawni mwy o droseddau
  • ailsefydlu troseddwyr
  • gorfodi amodau gorchmynion llys a thrwyddedau rhyddhau y troseddwyr
  • cynnal asesiadau risg ar droseddwyr er mwyn amddiffyn y cyhoedd
  • helpu i ddatrys problemau a allai fod wedi arwain at y troseddwr yn cyflawni'r trosedd yn y lle cyntaf

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU