Mae gennych chi a'r heddlu ran i'w chwarae er mwyn atal troseddu. Os byddwch chi'n helpu i wneud eich cartref a'ch cymdogaeth yn fwy diogel, gall hynny wneud byd o wahaniaeth.
Drwy gymryd ychydig o gamau syml i wella diogelwch eich cartref, gallwch leihau'n sylweddol y risg y bydd rhywun yn dwyn o'ch cartref. Oeddech chi'n sylweddoli bod 35% o achosion o fyrgleriaeth yn cynnwys ffenestr neu ddrws heb ei gloi? Gall cloi a chuddio eitemau gwerthfawr wneud gwahaniaeth.
Yn wir, gall unrhyw beth o drwch eich drysau i gryfder eich cloeon benderfynu a fydd rhywun yn dwyn o'ch cartref ai peidio. Oes arnoch eisiau gwybod pa mor ddiogel yw'ch cartref? Gallwch ddefnyddio cerdyn sgorio ar-lein i ganfod pa mor ddiogel ydyw.
Mae Gwarchod y Gymdogaeth (a elwir yn Gwarchod y Cartref mewn rhai ardaloedd) yn un o'r cynlluniau atal troseddu ehangaf a mwyaf adnabyddus. Gall unrhyw un gymryd rhan mewn cynllun Gwarchod y Gymdogaeth. Mae'r cynlluniau'n galluogi pobl leol i helpu'r heddlu i leihau troseddu. Maent hefyd yn annog pobl i fod yn gymdogion da, ac yn dod â chymunedau'n nes at ei gilydd.
Arweinir pob cynllun gan gydlynydd gwirfoddol sy'n dod â'i gymdogion at ei gilydd i drafod sut y gallant wneud eu cymdogaeth yn lle mwy diogel i fyw. Gall y cynlluniau fod yn fawr neu'n fach - mae'n dibynnu ar yr ardal a beth yw dymuniadau'r bobl sy'n byw yno. Maent yn cadw cysylltiad agos â'r heddlu lleol i rannu gwybodaeth a chyngor.
Gall cynlluniau dargedu problemau troseddu lleol a chymryd camau i'w hatal. Dylai cynlluniau holi pobl leol beth sy'n eu poeni fwyaf, a chanolbwyntio ar broblem benodol.
Gellir cymryd camau allweddol tuag at dargedu a lleihau troseddu a'r ofn ynghylch troseddu mewn unrhyw ardal. Drwy ymgynghori â'r heddlu lleol, gall cynlluniau Gwarchod y Gymdogaeth:
Yn y gorffennol, bu gweithgarwch Gwarchod y Gymdogaeth yn canolbwyntio ar gartrefi, gydag aelodau'n wyliadwrus o unrhyw beth amheus, ac yn helpu eu cymdogion fel bo'r galw. Fodd bynnag, mae mwy a mwy o gynlluniau'n ehangu'r gwaith a wneir. Bellach, gellir targedu problemau lleol, megis fandaliaeth neu graffiti, gan gynlluniau sydd wedi eu trefnu'n dda.
Cewch fwy o wybodaeth am sut i gymryd rhan mewn cynllun Gwarchod y Gymdogaeth ar wefan Rhwydwaith Gwarchod y Cartref a'r Gymdogaeth, neu gallwch ymweld â'ch gorsaf heddlu leol i ofyn am fwy o wybodaeth.