Mae pob cymdogaeth yn wahanol, ac felly hefyd y problemau a wynebir gan y trigolion. Bydd timau plismona cymdogaeth, awdurdodau lleol a sefydliadau eraill yn cydweithio'n agos â chi er mwyn canfod ac ymdrin â'r materion sy'n gwneud i chi deimlo'n anniogel.
Mae timau plismona cymdogaeth yn cynnwys swyddogion yr heddlu a swyddogion cymorth cymunedol, a byddant yn aml yn cydweithio â heddweision arbennig, staff yr awdurdod lleol a gwirfoddolwyr. Bwriad pob un ohonynt yw gwneud eich cymdogaeth yn fwy diogel er mwyn i chi allu teimlo'n fwy diogel. Maent yn sicrhau yr ymdrinnir â phroblemau lleol yn ddi-oed.
Gall hyn fod mor syml â glanhau graffiti oddi ar adeiladau lleol, neu mor fanwl â threfnu gweithgareddau i gadw pobl ifanc yn brysur ac oddi ar y strydoedd. Byddant yn cwrdd â'r trigolion i glywed eu pryderon ac i ddod o hyd i atebion i broblemau a fydd yn codi.
Mae'r timau hyn yn gweithio ar faterion penodol yn eich cymdogaeth, felly nid gyda nhw y dylech chi gysylltu mewn argyfwng. Mewn argyfwng dylech ffonio 999.
Mae gwasanaeth yr heddlu yn datgan ei ymrwymiad i'r cyhoedd yn yr 'addewid plismona' newydd. Mae pob heddlu wedi ymrwymo i'r addewid, sy'n pennu lefel ansawdd genedlaethol y gall pobl ei disgwyl gan eu heddlu lleol. Hefyd, gall pob cymdogaeth unigol ychwanegu ei blaenoriaethau lleol ei hun at yr addewid lleol.
Mae grwpiau lleol yn gweithio mewn cymunedau ym mhob cwr o'r wlad i geisio annog trigolion i wneud eu rhan er mwyn gwella eu trefi a'u gwneud yn fwy diogel. Os ydych chi'n awyddus i gymryd rhan, cysylltwch â'ch tîm plismona cymdogaeth lleol i gael gwybod beth sy'n digwydd yn eich ardal chi.
Gallech gyfrannu at eich tîm Cymunedau a Phartneriaethau lleol, er enghraifft, neu gallech ymuno â'ch panelau tîm plismona cymdogaeth lleol. Maent yn pennu blaenoriaethau lleol ar gyfer yr heddlu ac yn lleisio'u barn am gynlluniau talu'n ôl, sy'n sicrhau bod troseddwyr a gafwyd yn euog yn rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned.
Mae'r heddlu, awdurdodau lleol a gwasanaethau eraill (megis ymddiriedolaethau iechyd) i gyd yn cydweithio er mwyn atal troseddu. Mae partneriaethau lleihau troseddu ac anrhefn a phartneriaethau diogelwch cymunedol yn meddwl am gynlluniau i atal troseddu ac anrhefn, gan gynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol a defnyddio cyffuriau anghyfreithlon.
Mae gennych hawl i gael gwybod am eu gwaith yn eich ardal chi. Gall eich rheolwr diogelwch cymunedol lleol ddweud mwy wrthych am y cynllun lleihau troseddu yn eich cymuned chi. Gall hefyd egluro sut y gallwch gyfrannu at gynlluniau lleihau troseddu lleol ac at gyfarfodydd atal troseddu.
Un o'r ffyrdd symlaf a mwyaf effeithiol y gallwch helpu yw ymuno â'ch grŵp Gwarchod y Gymdogaeth lleol neu, os nad oes un yn eich ardal, dechreuwch eich grŵp eich hun.
Gall eich gorsaf heddlu leol eich rhoi mewn cysylltiad â grŵp yn eich ardal chi, ac mae llawer o wybodaeth ar wefan Gwarchod y Gymdogaeth i'ch rhoi ar ben ffordd.