Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Y manteision o fod yn ynad

Gall gwasanaethu fel ynad roi manteision amhrisiadwy i chi a'ch cymuned. Byddwch yn gwneud cyfraniad pwysig i gynnal y gyfraith, ac yn ehangu ac yn gwella'ch dealltwriaeth o'ch cymuned leol.

Budd i chi a budd i'r gymuned

Dyma rai o'r nifer o fanteision personol y gallwch eu hennill wrth fod yn ynad:

  • meithrin sgiliau personol, fel gwneud penderfyniadau, cyfathrebu a gweithio mewn tîm, a allai fod yn fanteisiol i'ch gyrfa ac i'ch cyflogwr
  • meithrin dealltwriaeth o'ch cymuned leol ac o faterion cymdeithasol
  • ennill gwybodaeth ymarferol am y gyfraith
  • codi hunan hyder

a

  • gwella sgiliau arwain a mentora

Wrth fod yn ynad, gallwch hefyd ddod a manteision i'ch cymuned:

  • drwy gyfrannu at y gwaith o gynnal y gyfraith a gwneud eich cymuned yn lle mwy diogel
  • drwy gyfrannu at y gwaith o ddiwygio ac ailsefydlu troseddwyr

a

  • helpu troseddwyr i wneud iawn i'r rheini y mae eu troseddau wedi effeithio arnynt

Tystiolaeth bersonol gan ynadon sy'n gwasanaethu

Alika Gupta - Arweinydd Rhaglen

"Petawn i fy hun yn ddiffynnydd, hoffwn wybod fy mod yn cael fy rhoi ar brawf ac yn cael fy nedfrydu gan rywun â thipyn o synnwyr cyffredin, a rhywun a allai ddeall fy sefyllfa. Rwy'n meddwl fy mod wedi bod yn lwcus oherwydd i mi gael y fraint o gael cynrychioli'r person cyffredin yn y system gyfreithiol."

Grantley Yearwood - Technegydd Awyrennau

"Roedden nhw eisiau ychydig mwy o gyfraniad diwylliannol wrth ystyried pobl ifanc o gefndiroedd ethnig, dwi'n meddwl. Byddaf yn cael boddhad wrth wasanaethu yn y gymuned leol ac wrth feirniadu a sicrhau bod pobl yn y gymuned yn cael eu trin yn deg am y ffordd y maent yn byw."

Geoff Pinney - Rheolwr Labordy

"Mae wedi dysgu llawer iawn i mi. Byddaf yn cael ystyried pobl a digwyddiadau amrywiol na fyddaf yn dod ar eu traws fel arfer. Bydd gan bawb sy'n dod i'r llys broblem wahanol, ac mae'n rhaid i chi gadw llygad ar yr agweddau dynol sydd wrth wraidd yr ymddygiad troseddol."

Yusuf Patel - Swyddog Gweinyddol

"Gall fod yn dipyn o her, ond ceir boddhad hefyd. Mae dipyn o synnwyr cyffredin, sgiliau cymryd nodiadau da a chof go lew yn rhinweddau defnyddiol hefyd. Gall unrhyw berson cymwys fod yn ynad."

Jenny Kerr - Trefnydd Cynadleddau Hunan-gyflogedig

"Erbyn hyn rwy'n eistedd ar y fainc ieuenctid yn ogystal â'r fainc oedolion, ac yn cael budd anhygoel o wneud gwaith ieuenctid. Rydw i wir yn teimlo y gallwn wneud gwahaniaeth. Fel ynad, rydych yn cymysgu â phobl sy'n meddwl yr un fath â chi, does dim angen cefndir cyfreithiol arnoch - dim ond llawer o synnwyr cyffredin."

Manjit Singh Buttar - Rheolwr ar Orsafoedd

"Roedd dod yn ynad yn ffordd i mi wneud mwy i gynrychioli'r gymuned Sikh ac i roi rhywbeth yn ôl i'r genedl gyfan. Mae fy nghyflogwr wedi bod yn gefnogol iawn - bob blwyddyn caf 18 diwrnod llawn i eistedd yn y llys, ac mae fy rheolwr yn hyblyg iawn. Byddaf yn rheoli pobl yn y gwaith, ac rwyf hefyd yn fentor yn y gwaith ac ar gyfer ynadon eraill - felly mae'r ddwy swyddogaeth yn mynd law yn llaw â'i gilydd."

Diana Chitty - Twrnai sy'n bartner yn y Cwmni

"Rwy'n fam ac yn gweithio, felly rwy'n gorfod meddwl am fy nheulu, fy swydd a'r ynadaeth - rwy'n gorfod jyglo fy amserlen o gwmpas braidd, ond mae'r uwch bartneriaid yn sylweddoli bod y gwaith rwy'n ei wneud fel ynad yn werth chweil, cyn belled â fy mod yn cwblhau fy ngwaith fy hun. Rwyf hefyd yn mwynhau gwasanaethu'n fawr - rwy'n cael llawer allan ohono, mae'n ddiddorol, ac rwy'n teimlo ei fod yn cyfri. Dyma'r peth pwysicaf yr wyf yn ei wneud ar ôl edrych ar ôl fy mhlant."

Additional links

Gwybodaeth i'r cyflogwr

Cewch wybod beth yw eich dyletswyddau chi fel cyflogwr o ran caniatáu amser i ffwrdd ar gyfer dyletswyddau ynadon

Allweddumynediad llywodraeth y DU