Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Yr Ynadaeth a swyddogaeth ynad

Os ydy cyfiawnder yn cyfri yn eich tyb chi, ac yr hoffech ennill sgiliau gwerthfawr wrth wasanaethu yn eich cymuned, gallai bod yn ynad fod yn berffaith i chi.

Ynadon neu Ynadon Heddwch

mae'n angenrheidiol i chi allu rhoi o leiaf 26 hanner diwrnod bob blwyddyn i eistedd yn y llys

Gwirfoddolwyr o bob cefndir yw Ynadon neu Ynadon Heddwch. Byddant yn delio ag oddeutu 95 y cant o achosion troseddol yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys llawer o'r troseddau sy'n effeithio fwyaf ar y cyhoedd, fel ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Bydd angen i chi allu rhoi o leiaf 26 hanner diwrnod bob blwyddyn i eistedd mewn llys (yn ôl y gyfraith, mae'n ofynnol i gyflogwyr ganiatáu amser rhesymol i chi o'r gwaith i weithio fel ynad). Ni fydd ynadon yn cael eu talu am eu gwasanaethau. Fodd bynnag, bydd llawer o gyflogwyr yn caniatáu amser o'r gwaith gyda thâl i ynadon. Os ydych chi'n colli enillion, gallwch hawlio lwfans colled ariannol ar gyfradd benodol. Cewch hefyd hawlio lwfans ar gyfer costau teithio a chynhaliaeth.

Rhaid i berson fod yn 18 oed cyn y gellir ei benodi'n ynad, a rhaid i ynadon ymddeol yn 70 oed. Fodd bynnag, ni fydd yr Arglwydd Ganghellor yn gyffredinol yn penodi unrhyw un sy'n 65 neu'n hŷn. Dewisir ar sail teilyngdod bob amser, a chroesewir ceisiadau gan bobl o bob rhan o'r gymuned, waeth beth yw eu rhyw, eu tarddiad ethnig, eu crefydd na'u cyfeiriadedd rhywiol. Does dim angen cymwysterau cyfreithiol nac academaidd arnoch i fod yn ynad, a darperir hyfforddiant llawn

Eich swyddogaeth fel ynad

Fel ynad, byddwch yn eistedd yn eich llys ynadon lleol ac yn delio ag ystod o faterion sifil ac achosion troseddol llai difrifol. Dyma rai o’ch dyletswyddau:

  • penderfynu a yw diffynnydd yn euog ai peidio a phenderfynu ar y ddedfryd briodol
  • penderfynu ar geisiadau am gadw rhywun ar remand yn y ddalfa
  • penderfynu ar geisiadau am fechnïaeth
  • trosglwyddo achosion mwy difrifol i Lys y Goron

Ar ôl cael profiad a hyfforddiant pellach gallwch hefyd fynd ymlaen i ddelio ag achosion mewn llysoedd teulu a llysoedd ieuenctid.

Bydd tri ynad yn eistedd gyda'i gilydd ar y 'fainc' (dau ynad ac un cadeirydd profiadol) a bydd cynghorydd cyfreithiol hyfforddedig yn ymuno â hwy yn y llys er mwyn rhoi arweiniad iddynt ar y gyfraith ac ar eu dewisiadau o ran dedfrydu.

Eich hyfforddiant

Byddwch yn dilyn rhaglen hyfforddi i'ch helpu i feithrin yr holl wybodaeth a sgiliau y bydd eu hangen arnoch i wasanaethu fel ynad. Cynhelir hyn gan Glerc yr Ynadon (cynghorydd cyfreithiol) lleol neu aelod o dîm y person hwnnw. Byddwch mewn grŵp gydag ynadon newydd eraill a gafodd eu recriwtio yr un pryd â chi. Rhoddir hyfforddiant mewn amrywiol ffyrdd, a all gynnwys gwaith darllen cyn y cwrs, gwaith mewn grwpiau bach, defnyddio astudiaethau achos, hyfforddiant ar gyfrifiadur a Theledu Cylch Cyfyng.

Cynhelir y cyflwyniad cychwynnol a'r hyfforddiant craidd am dri diwrnod (18 awr) fel arfer, ac mae'n bosib iddo gael ei ddarparu dros benwythnos hir, mewn cyfres o sesiynau byr gyda'r nos dros sawl wythnos, dros dri diwrnod ar wahân mewn wythnos, neu fel cwrs preswyl.

Cydnabyddir mai gwirfoddolwyr ydy ynadon a bod eu hamser yn werthfawr, felly gwneir pob ymdrech i ddarparu pob hyfforddiant ar adegau ac mewn llefydd sy'n gyfleus i hyfforddeion.

Mae gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder daflen, 'Gwasanaethu fel Ynad', a cheir ynddi fwy o wybodaeth am yr Ynadaeth ac am swyddogaeth ynadon.

Additional links

Gwybodaeth i'r cyflogwr

Cewch wybod beth yw eich dyletswyddau chi fel cyflogwr o ran caniatáu amser i ffwrdd ar gyfer dyletswyddau ynadon

Allweddumynediad llywodraeth y DU